Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ysbyty Cymunedol Maesteg

Mae BIP CTM yn buddsoddi yn nyfodol Ysbyty Cymunedol Maesteg, ac rydyn ni’n gwneud gwaith pwysig ar y safle. Bydd hyn yn ei wella i’n cleifion ac yn ein helpu i ddarparu’r gofal mwy diogel rydyn ni’n ymdrechu i’w ddarparu.

Fel bod modd gwneud y gwaith hwn yn gyflym, bydd Ward Llynfi yn Ysbyty Cymunedol Maesteg yn cau dros dro o heddiw, ddydd Gwener 6fed Tachwedd 2020, hyd nes mis Ionawr 2021.

Hoffen ni bwysleisio ein hymrwymiad i ddyfodol hirdymor yr ysbyty, ac rydyn ni wedi sefydlu grŵp prosiect i weithio ar gynlluniau’r dyfodol.

Bydd y gwaith ystadau fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf yn helpu i wella cynllun yr ysbyty ac yn ein helpu i ymateb i’r heriau sydd wedi codi oherwydd COVID-19. Bydd ail ward yn cael ei sefydlu pan fydd yr ysbyty’n ailagor. Bydd hyn yn helpu i gadw staff a chleifion ar wahân ymhellach, a lleihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi cysylltu’n uniongyrchol â’r cleifion sydd ar y ward a’u teuluoedd er mwyn trafod p’un a ydyn nhw’n cael eu hanfon gartref neu’n cael eu trosglwyddo i safle arall er mwyn diwallu eu hanghenion. Bydd staff sy’n gweithio yn Ysbyty Cymunedol Maesteg yn cael eu symud er mwyn gofalu am ein cleifion yn ein hysbyty maes, Ysbyty’r Seren.

Bydd gwasanaethau eraill sy’n cael eu darparu yn yr ysbyty, gan gynnwys gwasanaethau cleifion allanol, yn parhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod hwn.