Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ganolfan Iechyd a Lles Newydd Pen-y-Bont ar Ogwr

Cyn ei agor ym mis Hydref, mae'r gwaith o roi’r cyffyrddiadau olaf ar y Ganolfan Iechyd a Lles newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach ar y gweill. Bydd y cyfleuster gofal iechyd newydd hwn yn darparu gwasanaeth pwysig i'r dref.

Bydd y cyfleuster yn darparu llety modern, addas at y diben, mwy o gapasiti a mwy o gyfleoedd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio. Bydd hyn yn cefnogi integreiddio gwell, ffyrdd mwy effeithlon o weithio a phrofiad gwell i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y ganolfan newydd hefyd yn dod yn gartref newydd i Feddygfa Pen-y-bont ar Ogwr.

17/09/2026