Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Statws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Heddiw (dydd Iau, 2 Chwefror), mae partneriaid academaidd a diwydiant ledled Cymru wedi dod ynghyd i edrych ar sut y gallan nhw weithio'n agosach gyda'i gilydd er mwyn gwella iechyd a lles cymunedau Cwm Taf Morgannwg a gwella ansawdd y gofal a'r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn.

Roedd ein huwchgynhadledd Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid sy'n arwain ym meysydd Ymchwil a Datblygu, Hyfforddiant ac Addysg ac Arloesi, a oedd yn arddangos strategaethau a syniadau ar gyfer llywio iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol, drwy gydweithio a gweithio mewn partneriaethau.  

Dywedodd Marc Penny, Cyfarwyddwr Gwella ac Arloesedd CTM:

"Mae'r uwchgynhadledd heddiw yn ymwneud ag adeiladu cymunedau CTM iachach trwy weithio mewn partneriaeth. Er ei fod wedi bod yn gyfle gwych i ddangos ble mae ein partneriaethau yn gweithio'n dda; mae ein ffocws wedi bod ar arloesi; cryfhau partneriaethau sy’n bodoli eisoes a chreu rhai newydd. Rydyn ni am optimeiddio sut rydyn ni'n gweithio fel Bwrdd Iechyd ar draws systemau a sectorau a heddiw rydyn ni wedi herio ein ffordd o feddwl ynghylch sut y gall partneriaethau wella gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol. 

"Yn ystod yr uwchgynhadledd heddiw, rydyn ni wedi bod yn edrych ar lefel y capasiti a'r gallu sydd ei angen ar draws ein sefydliadau partner i gefnogi gyda hyfforddiant ac addysg, ymchwil a datblygu ac arloesi. Mae hynny wedi cynnwys edrych ar sut rydyn ni’n gwella ein defnydd o wyddoniaeth data er mwyn arloesi a thrawsnewid gwasanaethau. 

"Rydyn ni hefyd yn gwybod nad oes dim o hyn yn bosib heb ymroddiad ac ymrwymiad ein gweithluoedd. Ein staff ni yw'r glud sy’n cysylltu’n huchelgeisiau cyffredin â chanlyniadau iechyd gwell i gleifion." 

Rydym eisiau i'n strategaeth fod yn ystyrlon i bawb sy'n cymryd rhan: ein staff, ein partneriaid a'n cymunedau. Dyma ffilm fer rydym wedi'i datblygu sy'n ceisio dod â CTM2030 yn fyw trwy ddisgrifio sut y dylai deimlo i weithio i BIPCTM a gyda’r bwrdd iechyd, neu dderbyn gwasanaethau gennym yn y dyfodol.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau am bynciau ar gyfer ffilmiau yn y dyfodol, sy'n dangos CTM2030 ar waith trwy eich rhwydweithiau a'ch rhaglenni cymunedol chi, rhowch wybod i ni drwy e-bostio: CTM.OurHealthOurFuture@wales.nhs.uk

 

#DatblyguCymunedauIachachGydanGilydd

 

02/02/2023