Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad PIPYN i'r Wasg

Bu tîm Merthyr PIPYN yn dathlu lansiad y rhaglen plant a theuluoedd newydd sbon heddiw trwy ddringo Pen y Fan. Ymunodd rhanddeiliaid allweddol ar gyfer y rhaglen a'u llysgennad prosiect lleol, Kerry Morgan, o Heini Merthyr Tudful.

Gobaith y tîm yw helpu plant ifanc a theuluoedd yn ardal Merthyr i gael cefnogaeth am ddim ynghylch bwyta'n iachach ar gyllideb, cynllunio prydau bwyd, defnyddio ryseitiau iach, lleihau amser sgrîn, gwella arferion teuluol a phatrymau cysgu yn ogystal ag annog chwarae actif, a llawer mwy.

Bydd Merthyr PIPYN yn rhoi cyfleoedd i deuluoedd gael mynediad at basys teulu am ddim i wasanaethau chwarae lleol, yn ogystal â sesiynau coginio, offer a ryseitiau am ddim i greu prydau bwyd i'r teulu sydd ddim yn rhy ddrud.

Dywed Shelley Powell, Rheolwr Proffesiynol Dietetig Iechyd Cyhoeddus ac arweinydd y rhaglen, “mae hwn yn gyfle cyffrous i deuluoedd yn ardal Merthyr, i’n helpu i ddatblygu gwasanaeth sy'n diwallu eu hanghenion a'u heriau unigryw i'r teulu orau. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda chymaint o'n partneriaid lleol a'r teuluoedd eu hunain, i greu gwasanaethau mae teuluoedd eu heisiau a’u hangen.”

Bydd cymorth gan dîm PIPYN Merthyr ar gael i deuluoedd sydd ag o leiaf un plentyn rhwng 3-7 oed ac sy'n byw yn ardal Merthyr.  Byddan nhw’n cael cynnig pecyn o sesiynau rhyngweithiol, hwyliog i'r teulu wedi'u teilwra i amgylchiadau unigryw pob teulu. Bydd Merthyr PIPYN hyd yn oed yn dod i'ch helpu yn yr archfarchnad ac yn eich tywys drwy siop fwyd iach sy'n gyfeillgar i'r gyllideb. 

Yn ogystal â'r gwaith y bydd Pipyn yn ei wneud yn uniongyrchol â theuluoedd, maen nhw hefyd yn cefnogi ysgolion cynradd lleol, sefydliadau chwarae, lleoliadau gofal plant a sefydliadau partner, i gefnogi ein hagenda pwysau iach, gan wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.

Am ragor o wybodaeth

Os ydych am wybod mwy am sut gall eich teulu gael mynediad at y sesiynau hyn i'r teulu am ddim, gallwch gofrestru yma: https://forms.office.com/r/WujfNFN61e neu gallwch gysylltu â thîm Merthyr PIPYN drwy ffonio 01685 351293 neu drwy anfon e-bost at CTT_Dietetics_Public-Health@wales.nhs.uk.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook drwy fynd i dudalen Facebook Merthyr Pipyn.

 

12/04/2023