Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
"Yn ei gyfarfod Bwrdd Cyhoeddus ar 21 Mai 2026, roedd y Bwrdd Iechyd wedi cymeradwyo Heol Ewenni fel y safle dewisol ar gyfer datblygu ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghwm Llynfi yn y dyfodol."
"Mae’r penderfyniad yn cefnogi cyfle sylweddol i fuddsoddi i ddarparu mwy o wasanaethau i fwy o bobl yn lleol, gyda mynediad gwell at ystod ehangach o wasanaethau yn agosach at adref i bobl o bob oed. Mae cynlluniau ar gyfer safle cymunedol newydd wedi’u cynllunio i ddarparu gofal mwy integredig a hygyrch, gyda chefnogaeth well gydgysylltiedig ar draws gwahanol sefydliadau."
"Nod y buddsoddiad hwn yw gwella canlyniadau i bobl leol a helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd hirdymor ar draws y gymuned."
"Bydd dyfodol hirdymor safle Ysbyty Cymunedol Maesteg yn parhau i gael ei ystyried, er mwyn sicrhau bod y safle’n parhau i wasanaethu’r gymuned mewn ffordd ystyrlon."
"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ac ymgysylltu â’r gymuned, gan ddarparu cyfleoedd i bobl fod yn rhan o’r buddsoddiad cyffrous hwn yn eu tref a’u gwasanaethau iechyd lleol."
21/05/2026