Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd cyffrous ym Mharc Iechyd Llantrisant

Mae wedi bod yn gyfnod prysur ar y safle dros yr wythnosau diwethaf; mae modiwlau wedi cyrraedd ac, am y tro cyntaf, mae'r adeilad newydd wir yn dechrau cymryd siâp.

Bydd y ganolfan yn cynyddu capasiti ac yn helpu i ddarparu mynediad cynt a mwy cyfleus at brofion a sganiau hanfodol, gan wella'r profiad i gleifion ledled de-ddwyrain Cymru.

Mae'n wych gweld y datblygiad mawr hwn yn dechrau dod yn realiti!