Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Kickstart yn BIP Cwm Taf Morgannwg

Mae'n braf gan BIP Cwm Taf Morgannwg gymryd rhan yng nghynllun 'Kickstart' sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth. Mae’r cynllun yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwella eu cyfleoedd am gyflogaeth barhaus.

Mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau, nod y cynllun yw dod o hyd i swydd yn y Bwrdd Iechyd ar gyfer hyd at 30 o bobl rhwng 18 a 24 oed sy'n byw yng nghymunedau lleol Cwm Taf Morgannwg.  Bydd y bobl ifanc yn gweithio 25 awr yr wythnos ar leoliad am chwe mis, a bydd hyn yn cael ei ariannu’n llawn.  Bydd y rolau yn y meysydd gweinyddol, clerigol, cyfleusterau a lles.

Mae Lucy Forde, sef yr Arweinydd Talent a Denu yn ein Hadran Pobl a Datblygu Sefydliadol, yn bwriadu lleoli un o'r bobl ifanc yn ei thîm.  Dywedodd hi:

“Mae’n braf gyda ni roi cyfle i berson ifanc ymuno â'n tîm. Fel Bwrdd Iechyd, rydyn ni’n cydnabod effaith COVID-19 ar gyflogaeth, yn enwedig i bobl ifanc,  felly mae’n braf bod mewn sefyllfa i roi cymorth i’n cymuned a chynnig y profiad anhygoel hwn a chyfle i bobl ifanc ddatblygu eu CV.”

Mae'r cynllun eisoes wedi dechrau recriwtio pobl ifanc yn CTM a bydd y lleoliadau'n parhau tan ddiwedd mis Rhagfyr 2021.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Kickstart, cysylltwch â Lucy Forde lucy.forde2@wales.nhs.uk.