Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor cyn mynd yn ôl i'r ysgol i rieni yng Nghymru er mwyn helpu i amddiffyn yn erbyn salwch y gaeaf.

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn atgoffa rhieni yng Nghymru i gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydynt yn sâl gyda gwres, yn dilyn cynnydd mewn salwch fel ffliw. Mae'n un o nifer o gamau syml y gall rhieni eu cymryd i amddiffyn eu plentyn a lleihau lledaeniad salwch y gaeaf pan fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol a meithrinfeydd yng Nghymru'r wythnos nesaf.

Mae Ffliw a Covid-19 yn lledaenu ar lefelau uchel ar hyn o bryd ac mae cynnydd mewn achosion o'r dwymyn goch hefyd yn cael ei nodi.

Dylai plant sy'n sâl gyda thwymyn aros gartref nes eu bod yn teimlo'n well ac mae'r gwres ar ben. Mae gwres yn dymheredd uchel.

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Mae hefyd yn bwysig atgoffa plant am bwysigrwydd golchi eu dwylo i osgoi lledaenu germau a dal peswch a thisian mewn hancesi papur. Dylai oedolion hefyd geisio aros gartref pan fyddant yn sâl. Os oes rhaid iddynt fynd allan pan fyddant yn sâl, mae'n syniad da gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn eraill.”

Y ffordd orau o amddiffyn yn erbyn dal ffliw y gaeaf hwn yw i'r rhai sy'n gymwys gael y brechlyn ffliw. 

Gall plant gael brechlyn ffliw am ddim sy'n chwistrell drwynol effeithiol a diogel. Mae ar gael ar gyfer:

  • Pob plentyn mewn ysgol gynradd

  • Pob plentyn ym mlynyddoedd 7 i 11 mewn ysgol uwchradd

  • Pob plentyn sy'n ddwy neu dair oed ar 31 Awst 2022

  • Hefyd plant chwe mis oed neu drosodd sydd ag unrhyw rai o'r cyflyrau iechyd hirdymor sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o ffliw.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: - Brechlyn ffliw ac Atgyfnerthiad Hydref COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

 

 

 

DIWEDD

CYSWLLT: Ar gyfer ymholiadau'r wasg ffoniwch dîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0277 (24 awr)

Nodiadau'r golygydd

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru.

· Ni yw eich prif ffynhonnell o wybodaeth ddibynadwy am iechyd cyhoeddus, arbenigedd annibynnol ac ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf, i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau iachach.

· Gyda'n partneriaid ar draws llywodraeth, y trydydd sector a chymunedau lleol, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd a darparu arbenigedd.

· Gyda'n gilydd ein nod yw lleihau anghydraddoldebau, cynyddu disgwyliad oes iach a gwella iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach.

Ceir rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru y https://phw.nhs.wales/

 

 

09/01/2023