Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth cymunedol mewn Noddfa Lles newydd

Mae gwasanaeth Noddfa Lles arloesol yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig lle diogel, anghlinigol i bobl sydd gyda phroblemau iechyd meddwl ac sy’n wynebu trallod.

Ers agor yn fuan cyn y Nadolig, mae’r gwasanaeth tu allan i oriau wedi derbyn ymhell dros 100 o atgyfeiriadau o bob cwr o’r ardal, ac mae’n cynnig lle anghlinigol, cartrefol sy’n ddiogel, yn groesawgar, yn dawel ac yn llonydd i gefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl sy’n dioddef o drallod cymdeithasol. Trwy hynny, mae’n cynnig cymorth i bobl yn gynnar ac mewn modd llai ffurfiol.

Mae’r gwasanaeth peilot yn cael ei gynnig gan Mental Health Matters Wales, yn rhan o brosiect ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru a darparwyr trydydd sector eraill.

Mae’r noddfa yn wasanaeth i oedolion (18+) sy’n wynebu trallod cymdeithasol, er enghraifft: gorbryder, iselder, unigrwydd, arwahanu, problemau domestig, problemau yn y teulu, problemau mewn perthynas, cyfrifoldebau gofalu, straen a phroblemau eraill a all effeithio ar iechyd meddwl a lles meddyliol pobl.

Dim ond trwy apwyntiad y mae modd defnyddio’r noddfa, yn dilyn atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol, y gwasanaethau cymdeithasol neu staff gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau statudol.

Mae’r noddfa ar agor am bedwar diwrnod yr wythnos rhwng 5pm a 11pm. I’r rhai sy’n ei chael yn anodd mynd oherwydd eu trallod, eu lleoliad neu oherwydd arian, mae gwasanaeth tacsi yn rhad ac am ddim. Nod hyn yw sicrhau diogelwch a sicrhau bod dim byd yn atal pobl rhag gallu dod.

Dywedodd Robert Goodwin, Rheolwr Grŵp Gwasanaethau ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Mae hwn yn gynllun rhagorol sy’n rhoi i’n cymunedau beth maen nhw wedi bod yn gofyn amdano. Mae’r cymorth mae’r noddfa yn ei roi yn unigryw i’r ardal, ac mae’n cynnig cymorth i bobl ar adegau pan fo iechyd a gofal cymdeithasol traddodiadol yn anodd ei dderbyn. Mae’r staff yn cynnig cymorth anghlinigol gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar y gymuned ac sy’n cynnwys pawb yn y gymdeithas, er mwyn delio â gorbryder pobl. Mae’n wych bod y gwasanaeth hwn wedi bod yno i bobl yn ystod y pandemig.”

Dywedodd Michaela Moore o Mental Health Matters: “Rydyn ni’n cefnogi unigolion i ddod o hyd i grwpiau iechyd meddwl a chymunedol eraill. Gall hyn helpu pobl i wella. Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o’r gwasanaeth gwych hwn sy’n cefnogi’r rhai mewn angen, ac yn enwedig y rhai sy’n dioddef o drallod cymdeithasol ac unigrwydd yn ystod y cyfod anodd hwn. Rydyn ni’n darparu cymorth un wrth un a gweithgareddau ystyrlon mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”

Y noddfa hon yw’r gyntaf o’i math yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae’n darparu model o ofal integredig ac mae cynnig bellach i hyn barhau yn rhan sylfaenol o rwydwaith ehangach o wasanaethau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae adborth gan y rhai sydd wedi bod yn y noddfa neu sydd wedi bod mewn cysylltiad dros y ffôn wedi bod yn hynod o gadarnhaol.