Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnod clo creadigol yn Nhŷ Pinewood

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob cwr o’r byd ac wedi creu heriau newydd i’r rhan fwyaf o bobl. Yr un oedd y sefyllfa i staff a chleifion Tŷ Pinewood yn Nhreorci, sef gwasanaeth adsefydlu iechyd meddwl yn y gymuned. Wrth i’r byd wynebu cyfnod clo, doedd dim modd parhau â’r gwasanaethau yn yr awyr agored i’r cleifion.

Roedd y staff yn deall bod cysylltiadau â theuluoedd ac â’r gymuned yn hollbwysig, felly aethon nhw ati i chwilio am gyfleoedd eraill i gynnal y cymorth a’r cysylltiadau maen nhw’n eu cynnig. Byddai hyn yn eu galluogi nhw i ddarparu’r gofal gorau posib yn ystod cyfnod o ansicrwydd ac weithiau ofn.

Wrth ystyried hyn, datblygodd y staff yn Nhŷ Pinewood gyfres o grwpiau rhyngweithiol cymdeithasol ar gyfer eu cleifion, fel grŵp ysgrifennu creadigol. Diolch i’r grŵp hwn, roedd y cleifion yn gallu delio â’u hiechyd meddwl personol wrth barhau i gadw mewn cysylltiad â’r byd y tu allan.  Rhoddodd y grŵp creadigol yr adnoddau angenrheidiol iddyn nhw er mwyn ysgrifennu at eu hanwyliaid a’u ffrindiau, a chreu cerddi a dalen-nodau yn Nhŷ Pinewood a’u hanfon adref.

Un o’r cerddi cyntaf gafodd eu hysgrifennu gan y grŵp oedd at eu Seiciatrydd Ymgynghorol, Dr Shetty.

 

POEM – AN ODE TO DR SHETTY

 

THANK YOU FOR BEING OUR DOCTOR

WE RELY ON YOU BEING ALERT

YOU REALLY ARE A WONDERFUL MAN

YOU HEAL US WHEN WE ARE HURT

 

YOU HAVE A PLEASANT AND CHEERFUL MANNER

YOUR SMILE BRIGHTENS UP THE WHOLE ROOM

YOU HELP TO MAINTAIN EQUILIBRIUM

AND STOP ALL OUR MOODS GOING ZOOOOOOM

 

THANK YOU FOR BEING OUR COLLEAGUE

AND THOUGHTFULLY BRINGING US CAKE

OUR OLD GANG IS NOW BACK TOGETHER

AND WOW!.. WHAT A GREAT TEAM WE MAKE

Meddai Claire Goatson, Rheolwr Tŷ Pinewood: “Daeth y syniad o ysgrifennu creadigol ar ôl cydnabod pwysigrwydd cynnal cysylltiadau â’r teulu a ffrindiau, a meddwl am sut roedd modd i ni wneud hynny mewn ffordd wreiddiol pan oedd ymweld â chymdeithasu’n anodd iawn.

“Yn wreiddiol, roedden ni’n disgwyl nifer fach i gymryd rhan, ond mewn gwirionedd daeth nifer o bobl at y grŵp yn rheolaidd ac roedden nhw’n awyddus i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau ysgrifennu creadigol i ddechrau. Ar ôl trafodaeth, fodd bynnag, sylweddolom ni fod y cleifion am ddefnyddio’r amser i anfon llythyrau adref.  Yn aml, roedd hyn yn cynnwys anfon anrhegion bach roedden nhw wedi eu gwneud mewn grwpiau crefft, fel magnedau, dalen-nodau ac ati.

“Roedd pawb yn edrych ymlaen at gael eu llythyrau yn ôl oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau. Roedd hi’n amlwg eu bod nhw’n gwerthfawrogi darn o bapur ysgrifenedig a bod yr eitem hon yn gysylltiad o gartref i’w gadw yn eu hystafell wely tra nad oedd modd cael cysylltiadau arferol yn rheolaidd. Yn ogystal â hynny, defnyddiom ni’r cyfle i gynnal cysylltiad â’r staff oedd yn gwarchod neu oedd yn sâl gyda COVID-19, i roi gwybod iddyn nhw ein bod ni’n meddwl amdanyn nhw a’n bod ni’n gweld eu heisiau yn rhan o’n tîm.

“Cafodd hyn ymateb arbennig iawn gan grŵp o’r staff oedd yn awyddus i roi cymorth i ni ac i barhau i rannu’r gofal a’r ymrwymiad i’n grŵp o gleifion, ond doedd dim modd gwneud hynny ar y pryd oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Cafodd pawb gyfle i weld ymatebion y staff a helpodd hyn i wella morâl a hwyliau’r tîm.”

Gallwch chi weld y fideo gafodd ei greu i ddathlu llwyddiant y gweithdy ysgrifennu creadigol ar YouTube.

https://www.youtube.com/watch?v=7FCvn3PIKs4