Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle olaf i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag COVID-19 a'r Ffliw

Mae amser yn mynd yn brin i gael eich brechu rhag y Ffliw a COVID-19 ac amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag mynd yn ddifrifol wael.

Mae brechiadau galw heibio COVID-19 ar gael tan 31ain Mawrth 2025.

Os ydych yn gymwys ar gyfer y brechiad COVID-19 y gaeaf hwn, dylech fod wedi derbyn gwahoddiad i fynychu un o’n chwe Chanolfan Frechu Cymunedol (CVCs) bellach.

Grwpiau cymwys ar gyfer y brechlyn COVID-19:

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor
  • Menywod beichiog
  • Pobl 65+ (oedran ar 31ain Mawrth 2025)
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y rheng flaen
  • Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gofalwyr di-dâl

Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad, rydych wedi methu eich apwyntiad, neu os yw eich amgylchiadau wedi newid, a'ch bod dros 18 oed, mae pob un o'n clinigau brechu ar agor i chi galw heibio heb apwyntiad. Darllenwch fwy am ymweld â'n canolfannau brechu cymunedol.

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael brechlyn ond nad ydych wedi cael gwahoddiad, neu y byddai’n well gennych archebu slot amser ar gyfer eich brechiad, gallwch gysylltu â’n llinell archebu ar 01685 726464.

Os nad ydych eto wedi cael eich brechiad ffliw, mae'r rhain ar gael gan eich meddyg teulu neu fferyllfa leol.

20/02/2025