Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) - Dydd Iau 30ain Gorffennaf 2026

Mae’n dda gennym eich gwahodd chi i ymuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Ddydd Iau 30ain Gorffennaf 2026 am 9:15yb lle bydd y Bwrdd Iechyd yn derbyn ei Adroddiad Blynyddol a’i Gyfrifon Blynyddol ar gyfer 2025/2026 yn ffurfiol.

Bydd y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yn Yr Hwb, Safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Gwaun Elái, Llantrisant, CF72 8XR. Os hoffech ymuno â ni, gallwch gadarnhau eich presenoldeb trwy e-bostio ni yn ctm_corporate_governance@wales.nhs.uk. Byddwn hefyd yn darlledu'r cyfarfod hwn yn fyw i aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno mynychu ar lein.  Gallwch ymuno drwy'r ddolen ganlynol.

Hefyd, pe byddech yn dymuno codi cwestiwn yn y CCB byddem yn ddiolchgar pe gallech hefyd gyflwyno hyn i ni erbyn 24 Gorffennaf 2026 drwy'r e-bost canlynol: ctm_corporate_governance@wales.nhs.uk.

17/07/2026