Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Bwrdd Eithriadol

Bydd Cyfarfod Eithriadol o'r Bwrdd Iechyd yn cael ei gynnal dydd Iau 25 Mehefin 2026 am 9:00 y bore yng Nghanolfan Academaidd Keir Hardie, Parc Iechyd Keir Hardie, Merthyr Tudful i Gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ar gyfer 2025-26.

Bydd cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd yn cael eu cynnal yn gyhoeddus ac felly mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’n wyneb yn wyneb i arsylwi’r cyfarfod.  

Bydd cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ei recordio a’i uwchlwytho i’n gwefan cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn arsylwi ein cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn bersonol, gofynnwn i chi gofrestru eich diddordeb ymlaen llaw, hyd at dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, drwy gysylltu â CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk.

Os hoffech arsylwi unrhyw gyfarfod o'r Bwrdd ac os oes angen cyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain arnoch, cysylltwch â CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod a byddwn yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Gan y bydd y Bwrdd Iechyd yn 'cyfarfod cyhoeddus' mae'n bwysig nodi nad yw hwn yn gyfarfod cyhoeddus. Mewn cyfarfod i’r cyhoedd, gellir gofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfod, tra bod cwestiynau’n cael eu cymryd ar ôl cwblhau’r gwaith o ystyried yr holl eitemau ar yr agenda yn ystod cyfarfod cyhoeddus.

I'r perwyl hwn, rydym yn darparu cwestiynau ymlaen llaw hyd at dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, er mwyn caniatáu i ymatebion cywir gael eu darparu mewn modd amserol. Anfonwch unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda atom drwy e-bost at: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk. Bydd y cwestiynau yn cael eu hateb ar ddiwedd y cyfarfod.

Gall y Cadeirydd ddefnyddio ei ddisgresiwn wrth benderfynu a ddylid derbyn cwestiynau sy'n codi gan y cyhoedd ar ddiwrnod y cyfarfod. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r Bwrdd yn cadw’r hawl i ohirio darparu ymateb er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer gwirio a chywirdeb, fel arfer o fewn 7 diwrnod gwaith.

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer pob cyfarfod i'w cael yma Papurau'r Bwrdd 2026 7 diwrnod cyn y cyfarfod.

10/06/2026