Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Bwrdd Arbennig

Bydd Cyfarfod Eithriadol o'r Bwrdd Iechyd yn cael ei gynnal dydd Iau 25 Mehefin 2026 am 9:00 y bore yng Nghanolfan Academaidd Keir Hardie, Parc Iechyd Keir Hardie, Merthyr Tudful i Gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ar gyfer 2025-26.

Os hoffech arsylwi unrhyw gyfarfod o'r Bwrdd ac os oes angen cyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain arnoch, cysylltwch â CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod a byddwn yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

I'r perwyl hwn, rydym yn darparu cwestiynau ymlaen llaw hyd at dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, er mwyn caniatáu i ymatebion cywir gael eu darparu mewn modd amserol. Anfonwch unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda atom drwy e-bost at: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk. Bydd y cwestiynau yn cael eu hateb ar ddiwedd y cyfarfod.

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer pob cyfarfod i'w cael yma Papurau'r Bwrdd 2026 7 diwrnod cyn y cyfarfod.

10/06/2026