Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod Cwm Taf Morgannwg yn y DU

Mae gwaith tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'i gydnabod yn yr 'Advancing Healthcare Awards' 2023 ledled y DU.

Un o'r pum tîm yng Nghymru sydd ar y rhestr fer yw tîm Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cwm Taf Morgannwg ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd hefyd wedi cael eu henwebu am Wobr Llywodraeth Cymru am eu dull amlddisgyblaethol o reoli llyncu, maeth a meddyginiaeth ymhlith trigolion cartrefi gofal yr henoed.

Mae'r Advancing Healthcare Awards wedi bod yn rhedeg ers 17 mlynedd ac yn cydnabod ac yn dathlu gwaith gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol, gwyddonwyr gofal iechyd a chydweithwyr eraill sydd wedi gweithredu arferion gofal iechyd arloesol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rwy'n falch iawn o weld Cymru'n cael cynrychiolaeth ar lwyfan cenedlaethol fel hyn. Mae GIG Cymru yn dod o hyd i ffyrdd arloesol newydd o weithio yn gyson ac mae hyn i lawr i'r gwaith caled a'r ymroddiad gan y rhai sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd. Mae'r enwebeion hyn yn dangos, er gwaethaf y pwysau aruthrol y maent yn ei wynebu bob dydd eu bod yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaethau gofal ac iechyd gorau posibl i bobl Cymru."

Dywedodd Sheiladen Aquino sy'n arwain y prosiect ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Mae cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn gyfle i arddangos sut gall AHP integredig hyrwyddo profiad positif i gleifion, gwella canlyniadau clinigol, lleihau costau a chyfrannu at amgylchedd mwy gwyrdd.

"Gellir efelychu'r model hwn yn hawdd i ddarparu ar gyfer AHPs eraill i ddarparu gofal cyfannol i rai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned. Rydym yn gobeithio cyflwyno'r model hwn ledled Cymru ac integreiddio AHPs eraill. Nid dim ond ar gyfer Therapydd Lleferydd, Dietegwyr a Fferyllwyr sy'n gyfrifol am y dull hwn, ond gall pobl fel Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ddefnyddio'r model hwn i leihau cwympiadau a gwella adsefydlu.

"Rydyn ni'n falch o gynrychioli nifer o arloesiadau AHP sy'n cael eu cynnal yng Ngwasanaethau Integredig Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg."

Cyhoeddir enillwyr Advancing Healthcare Awards 2023 ar 21 Ebrill.

 

19/04/2023