Neidio i'r prif gynnwy

Cwm Taf Morgannwg yn croesawu ei brif weithredwr newydd, Paul Mears

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi croesawu ei Brif Weithredwr newydd, Paul Mears, sy’n ymuno â’r sefydliad ar ôl gweithio yn GIG Lloegr ers 2003.

Ac yntau’n dechrau yn y rôl yn ystod cyfnod heriol iawn, bydd Paul yn canolbwyntio ar gryfhau’r cydberthnasau â’n cymunedau a’n partneriaid, yn ogystal â datblygu’r natur agored a’r cynhwysiant sydd eisoes yn bodoli yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae Paul wedi cyflwyno cynllun 100 o ddiwrnodau ar gyfer ei fisoedd cyntaf yn y rôl er mwyn cyfarfod â chymaint o aelodau staff, cleifion, partneriaid a rhanddeiliaid â phosib. Bydd y cyfarfodydd a digwyddiadau hyn yn digwydd ar-lein neu, pan fydd yn bosib, byddan nhw’n digwydd yn bersonol gan gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae nifer o sesiynau briffio ar-lein wedi cael eu trefnu hefyd.

Meddai Paul: “Mae’n fraint cael fy mhenodi yn Brif Weithredwr a chael hyder y Bwrdd i arwain ein sefydliad. Rydw i wedi gweithio gyda’r GIG am 17 o flynyddoedd mewn sawl sefydliad yn Lloegr ond dyma fy mhrofiad cyntaf o weithio yn system Cymru, felly rydw i’n gwybod yn iawn fod gen i lawer i’w ddysgu.

“Rydw i’n ymwybodol fy mod i’n ymuno â CTM yn ystod cyfnod heriol wrth i ni barhau i ddelio â phandemig y coronafeirws, yn ogystal ag ailddechrau gwasanaethau mewn cyd-destun sy’n newid drwy’r amser. Rydw i’n gwybod bod llawer o aelodau o’r staff dan bwysau ar ôl misoedd o straen mawr oherwydd y pandemig a hoffwn i gydnabod y ffyrdd anhygoel mae ein cymunedau wedi dod ynghyd a sut mae ein partneriaid wedi bod yn gweithio gyda ni wrth ymateb i COVID-19.

“Er gwaetha’r heriau, dyma gyfle gwych i ni gysylltu gwasanaethau a sicrhau bod cleifion a’u teuluoedd yn gallu cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, ar yr adeg briodol ac yn y lleoliad priodol. Rydw i’n credu mai fy rôl i yw creu amgylchedd yn CTM lle gall pob aelod o’n staff gyflawni pethau anhygoel ac rydw i’n edrych ymlaen at arwain y sefydliad at ddyfodol cyffrous.”

Meddai Cadeirydd BIP Cwm Taf Morgannwg, yr Athro Marcus Longley: “Mae’n braf gen i groesawu Paul i’r Bwrdd Iechyd. Mae ganddo brofiad helaeth a llawer o frwdfrydedd ac mae’n credu’n gryf yn ein gallu i wella drwy’r amser. Mae’n amser cyffrous ond heriol, a bydd profiad a sgiliau Paul yn ein helpu ni i ddatblygu ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi ei wneud yn barod, yn ogystal â hybu arloesedd a gwelliannau parhaus ar draws Cwm Taf Morgannwg. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ei gyfraniad i’n gwaith.”

Mae Paul, sy’n cymryd yr awenau oddi wrth y Prif Weithredwr Dros Dro, Dr Sharon Hopkins, yn dod â phrofiad helaeth i Gwm Taf Morgannwg ar ôl gweithio mewn sawl rôl gyda GIG Lloegr a hefyd yn ymgynghorydd gofal iechyd.