Mae gwelyau cymunedol yn darparu gofal i gleifion nad oes angen triniaeth arnyn nhw mwyach mewn gwely ysbyty acíwt, ond nad ydyn nhw’n hollol barod i ddychwelyd adref eto.
Gall cleifion fod angen gwely cymunedol ar gyfer:
Adsefydlu
Adferiad
Ailalluogi
Asesiad pellach
Ar hyn o bryd, mae llai o welyau cymunedol ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr nag mewn rhannau eraill o Gwm Taf Morgannwg, sy'n golygu bod rhai cleifion sydd angen gwely cymunedol yn cael cynnig gwely y tu allan i'w hardal leol.
Mae cael gofal yn agosach at adref yn helpu cleifion i aros mewn cysylltiad â'u teulu, eu ffrindiau a'u rhwydweithiau cymorth lleol. Gall hefyd wella eu profiad o ofal.
O ganlyniad i waith adnewyddu yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mae cyfle wedi codi i gynyddu'r ddarpariaeth o welyau cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn cynnig agor dau ward gymunedol a fydd yn darparu 46 o welyau i ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
1. Beth yw gwely cymunedol?
Mae gwely cymunedol yn darparu gofal i gleifion nad oes angen triniaeth feddygol arnyn nhw mwyach mewn gwely ysbyty acíwt, ond nad ydyn nhw’n barod i ddychwelyd adref eto.
Mae gwelyau cymunedol yn cynnig adsefydlu, adferiad, cymorth i ailalluogi annibyniaeth ac asesiad pellach i gleifion, er mwyn helpu unigolyn i ddychwelyd adref cyn gynted ag y mae'n ddiogel gwneud hynny, ac i dderbyn gofal a chymorth yn nes at adref lle bynnag y bo modd.
2. Pam mae'r gwelyau'n symud?
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi adolygu ei ddarpariaeth o welyau cymunedol ac yn cydnabod pwysigrwydd mynediad teg at welyau cymunedol ar draws pob un o'r tair ardal leol.
Yn dilyn y digwyddiad critigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru (YTC) ym mis Hydref 2024, cafodd gwelyau cymunedol eu symud i Ysbyty George Thomas. Bwriad y cam oedd iddo fod yn drefniant dros dro tra oedd gwaith hanfodol yn cael ei wneud yn YTC.
Cafodd y trefniant hwn ei ymestyn; fodd bynnag, tynnodd adolygiad diweddar sylw at bwysigrwydd darparu mynediad teg at welyau cymunedol ar draws pob un o'r tair ardal.
Mae gwaith adnewyddu yn cael ei wneud yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac mae hyn wedi creu cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth o welyau cymunedol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn galluogi mwy o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn gofal yn nes at adref, gan sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy.
3. Pam mae'r gwelyau'n symud o ysbyty cymunedol i ysbyty gofal acíwt?
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad teg at welyau cymunedol ar draws pob un o'r tair ardal leol.
Er ein bod yn cydnabod nad yw safle ysbyty gofal acíwt, fel Ysbyty Tywysoges Cymru, yn lleoliad arferol ar gyfer gwelyau cymunedol, mae'r gwaith adnewyddu wedi creu cyfle i ailgynllunio'r wardiau sy'n wag ar hyn o bryd er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn.
4. Beth mae dychwelyd gwelyau cymunedol i Ysbyty Tywysoges Cymru yn ei olygu i Ysbyty George Thomas?
Bwriadwyd i’r broses o symud gwelyau cymunedol o Ysbyty Tywysoges Cymru i Ysbyty George Thomas fod yn drefniant dros dro tra bod gwaith hanfodol yn cael ei wneud yn YTC yn ystod y digwyddiad critigol ym mis Hydref 2024.
Pan fydd y gwelyau hyn yn dychwelyd i Ysbyty Tywysoges Cymru, bydd Ysbyty George Thomas yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau a wnaeth cyn adleoli gwelyau cymunedol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried sut y gall y wardiau gwag gefnogi anghenion gofal iechyd lleol orau, ac mae trafodaethau'n parhau. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu unwaith y bydd cynlluniau wedi'u datblygu a'u cytuno.
5. Ydy symud gwelyau cymunedol yn Ysbyty George Thomas yn golygu llai o welyau cymunedol i drigolion Rhondda Cynon Taf?
Bydd cleifion yn Rhondda Cynon Taf yn dal i gael mynediad i welyau cymunedol yn Ysbyty Cwm Rhondda. Bydd y symud hwn i Ben-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno dosbarthiad mwy cytbwys o welyau i ddiwallu anghenion cleifion yn y ffordd orau.
6. Fydd y newid hwn yn golygu y bydd unrhyw aelodau o'r staff yn colli eu swyddi?
Na fydd. Bydd sgiliau a phrofiad gwerthfawr ein staff yn cael eu cadw ar draws y Bwrdd Iechyd.
7. Pryd fydd y symud yn digwydd?
Yn amodol ar gwblhau'r gwaith cytundebol, nod y Bwrdd Iechyd yw cael y wardiau yn Ysbyty Tywysoges Cymru yw cael eu defnyddio erbyn diwedd y flwyddyn.
8. Beth fydd yn wahanol i gleifion unwaith y bydd y newidiadau wedi'u gwneud?
I gleifion, bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd mynediad mwy teg at welyau cymunedol ar draws pob un o dair rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Bydd cleifion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael mynediad at 46 o welyau cymunedol, gan eu galluogi i gael gofal yn agosaf at adref.
9. Mae gen i bryderon ynghylch y newidiadau hyn; â phwy galla i siarad?
Os oes gennych unrhyw bryderon am y newidiadau arfaethedig hyn neu os hoffech godi unrhyw faterion rydych chi wedi'u profi ynghylch gofal, triniaeth, cyfathrebu neu wasanaeth, cysylltwch â'n tîm Pryderon pwrpasol ar CTM.Concerns@wales.nhs.uk.