Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn lansio system adborth cleifion newydd - CIVICA

Heddiw (Ionawr 13, 2022) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn lansio system adborth newydd - CIVICA, i gleifion roi adborth ar eu profiad.

Mae CIVICA yn caniatáu i Fwrdd Iechyd Prifysgol CTM ymgysylltu â’i gymuned a gwrando, dysgu a gweithredu ar sut mae’r cyhoedd yn dweud bod angen i’r Bwrdd Iechyd adeiladu ar wasanaethau i ddarparu profiad gwell iddynt.

Bydd y system adborth newydd hon yn darparu’r data sydd ei angen arno er mwyn i’r Bwrdd Iechyd nodi unrhyw faterion a deall taith claf drwy ei wasanaethau yn well, ochr yn ochr â thaith ei deulu a’i ofalwyr.

Mae llawer o ffyrdd i gleifion rannu adborth:

  • Gellir sganio codau QR oddi ar boster i ffôn / dyfais bersonol. Mae'r posteri hyn yn cael eu harddangos ar draws y bwrdd iechyd ac ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Cliciwch ar y ddolen hon (HYERLINK), sydd ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd a thudalennau cyfryngau cymdeithasol, i rannu adborth eich claf. - https://bit.ly/3p6Z8eJ .

Beth fydd yn cael ei ofyn?

Mae CIVICA yn ystyried sawl agwedd ar brofiad claf gan gynnwys:

  • A wrandawyd arnynt ?
  • A gawsant eu trin ag urddas a pharch?
  • A gawsant eu trin a'u gweld mewn amgylchedd glân a diogel?
  • A oeddent yn ymwneud cymaint ag yr oeddent am fod mewn penderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth?
  • A gawson nhw gyfle i siarad Cymraeg?

Mae’r system hon yn ddatblygiad allweddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol CTM gan y bydd yn galluogi staff i weld adborth yn benodol ar gyfer eu ward/adran, gan eu galluogi i wneud gwelliannau yn y maes hwnnw.

Mae system CIVICA wedi’i phrofi’n ddiweddar gyda nifer o arolygon profiad cleifion ar draws llawer o grwpiau defnyddwyr, sy’n cynnwys mamolaeth, pediatreg a methiant y galon.

Eglurodd y tîm profiad cleifion: “Mae platfform CIVICA yn profi i fod yn llwyddiant mawr ac rydym yn cael llawer o ddiddordeb gan lawer o grwpiau defnyddwyr gwasanaeth a chleifion fel ei gilydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y data dros yr ychydig fisoedd nesaf a dechrau nodi lle gallwn wneud gwelliannau pellach fel Bwrdd Iechyd i’n galluogi i ddarparu’r profiad claf gorau posibl i’n cymuned yng Nghwm Taf Morgannwg.”