Heddiw (7 Chwefror), cafodd rhaglen PIPYN Rhondda Cynon Taf Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad yng Nghymoedd y Rhondda.
Mae rhaglen PIPYN CTM yn ymroddedig i gefnogi plant (3-7 oed) a'u teuluoedd i wneud dewisiadau bwyd iach ac adeiladu arferion teuluol iach. Mae'r rhaglen yn cynnig sesiynau cymorth teuluol sydd wedi'u hymgorffori mewn cynlluniau i adeiladu amgylcheddau iach o amgylch y teulu.
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol i gefnogi teuluoedd ym Merthyr Tudful yn 2023, mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant mawr ac mae bellach wedi ehangu i’r Rhondda a Thaf Elái.
Wedi’i dylunio a’i darparu gan y Tîm Dieteg Iechyd Cyhoeddus, mae rhaglen PIPYN wedi’i dylunio gan deuluoedd lleol ac ystod eang o randdeiliaid, o gynghorau lleol a darparwyr addysg i bartneriaid cymunedol a theuluoedd.
Mae’n cynnig rhaglen ddiogel a chwbl gynhwysol, sy’n hygyrch i bawb sy’n targedu ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’r gyfradd uchaf o fod dros bwysau a gordewdra.
Mae PIPYN yn cynnig cyngor a chymorth i deuluoedd ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
Wrth gynnal gweithdy cyntaf PIPYN RhCT heddiw, dywedodd Shelley Powell, Arweinydd Rhaglen PIPYN:
“Mae gan BIPCTM rai o lefelau uchaf Cymru o ordewdra ymhlith oedolion a phlant. Ein prif nod yw cynnig gwybodaeth a chymorth i deuluoedd sy'n byw mewn CTM i'w helpu i feithrin arferion iach trwy wneud dewisiadau iach.
Ers 2023, mae PIPYN wedi darparu dros 400 o sesiynau i fwy na 250 o deuluoedd ym Merthyr Tudful. Rydym yn falch iawn o fod yn cynnig PIPYN yn Rhondda Cynon Taf nawr. Ers ei lansio ym mis Medi 2024, mae PIPYN RhCT eisoes wedi darparu 14 o raglenni, gan gefnogi cyfanswm o 102 o deuluoedd, a 174 o blant.
Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus a diolch yn fawr iawn i dîm PIPYN cyfan am y gwaith anhygoel y mae’n ei wneud.”
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen PIPYN, neu i gofrestru ar gyfer PIPYN Merthyr neu PIPYN RhCT ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/deietegwyr-iechyd-y-cyhoedd/pipyn/
07/02/2025