Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn cynnal clinigau cerdded-i-mewn am y ddos gyntaf

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal ei glinigau cerdded-i-mewn cyntaf ar gyfer brechiadau rhag COVID-19.

Mae'r clinigau cerdded-i-mewn ar gael yr wythnos hon ar gyfer unrhyw oedolyn sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd ac sydd heb gael ei ddos gyntaf eto.

Maen nhw’n cael eu cynnal yng nghanolfan frechu gymunedol Aberpennar yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon.

Ddydd Iau yma (24 Mehefin) a dydd Gwener (25 Mehefin), mae'r slotiau cerdded-i-mewn ar gael rhwng 9:30 a 12:30 ac yna rhwng 1:15 a 3:30.

Mae 87 y cant o oedolion cymwys wedi cael eu dos gyntaf, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 58 y cant wedi cael y ddwy ddos ac wedi cael eu brechu'n llawn.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:  "Er ein bod yn falch iawn bod cynifer o bobl wedi manteisio ar y cynnig i gael brechlyn, rydym yn parhau i fod yn gwbl benderfynol na fydd neb yn cael ei adael ar ôl.

"Rhan o hynny yw ceisio gwneud yr holl broses mor hawdd â phosibl, sef y rheswm pam rydym ni wedi sefydlu’r clinigau cerdded-i-mewn hyn.

Mae'r clinigau cerdded-i-mewn yn golygu nad oes angen apwyntiad arnoch chi a gallwch chi ddod ar y diwrnod perthnasol i chi, ar adeg sy'n gyfleus i chi, a chael eich dos gyntaf.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham: "Bydd rhai pobl, nad oedden nhw’n siŵr am gael y brechlyn pan gafodd un ei gynnig iddyn nhw y tro cyntaf, bellach wedi newid eu meddwl am gael un.

"Mae hynny'n newyddion da a bydd ein timau wrth eu bodd yn eich gweld chi. Mae’r clinigau  cerdded-i-mewn yn golygu y byddwch chi i mewn ac allan mewn dim o dro”.

Bydd apwyntiadau ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'r clinigau cerdded-i-mewn ac yn dibynnu ar y cyflenwad o frechlynnau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ceisio rhoi ail ddosau i bobl yn gynt lle bynnag y bo modd.

Dr Kelechi Nnoaham  "Allwn ni ddim cuddio rhag y ffaith ein bod unwaith eto'n wynebu sefyllfa ddifrifol oherwydd lledaeniad yr amrywiolyn Delta.

"Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu'n gryf bod dwy ddos o'r brechlyn yn helpu i leihau'r risg o fynd i'r ysbyty, a dyma pam ei bod mor bwysig cael y ddwy ddos a cael eich brechu'n llawn.

"Rydyn ni i gyd wedi colli cymaint ers dechrau'r pandemig hwn, ond rydw i wir yn credu mai cael eich brechu yw'r ffordd orau o ddychwelyd i fywyd fel yr oedd cyn y pandemig ."

Os nad ydych am fynd i glinig cerdded-i-mewn ac os yw’n well gyda chi gael apwyntiad, gall unrhyw un dros 18 oed nad yw wedi cael ei ddos gyntaf drefnu apwyntiad yn un o'n canolfannau brechu cymunedol ar draws Cwm Taf Morgannwg.  Ffoniwch 01443 281163 a dewiswch opsiwn tri, neu fel arall ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chwblhau’r ffurflen ar gyfer dosau cyntaf:  Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg