Neidio i'r prif gynnwy

Croesawu Newid: Helpu chi i lywio'r Menopos i gael bywyd bywiog

Mae'n Ddiwrnod Menopos y Byd ar 18 Hydref ac mae ein Bwrdd Iechyd wedi cynllunio digwyddiad i'ch helpu a'ch cefnogi i baratoi ar gyfer y Menopos a llywio'ch ffordd drwyddo.

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal ar Teams o 12.30 - 1.30yp.

I ymuno â'r sesiwn, dilynwch y ddolen hon.

Yn arwain y sesiwn bydd tri arbenigwr bwrdd iechyd; unigolion sy'n arbenigol iawn mewn gwella canlyniadau ar gyfer iechyd a lles menywod:

  • Dr Nadia Hikary-Bhal - Wrogynaecolegydd ac Arbenigwr Menopos
  • Dr Liza Thomas-Emrus - Meddyg Teulu ac Arbenigwr Meddygaeth Ffordd o Fyw
  • Dr Emma Marie Williams - Prif Seicolegydd Clinigol

Beth i'w ddisgwyl o fynychu:

  • Siarad am y Menopos, yr achosion a'r mathau
  • Chwalu hud y Menopos – byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r mythau cyffredin
  • Rheoli symptomau cyffredin (fel cwsg, straen, maeth, ymarfer corff a chysylltiad cymdeithasol)
    •  Beth allwch chi ei wneud i helpu eich hun?
    •  Adnoddau defnyddiol
  • Popeth sydd angen i chi ei wybod am HRT (gan gynnwys dewisiadau HRT)
  • Archwilio effaith seicolegol y Menopos
    • Trafod pwysigrwydd lles meddyliol i reoli eich symptomau.

Cyflwyno MALI

Bydd y sesiwn hefyd yn gweld lansiad Gwasanaeth Menopos newydd cyffrous ar gyfer menywod CTM o'r enw MALI - Menopos a Gwella Ffordd o Fyw. Bydd Mali yn mabwysiadu agwedd gyfannol at ofalu am fenywod, gan gynnig ymgynghoriadau grŵp (gan gynnwys presgripsiynu HRT) a hyfforddiant iechyd.

Yn ystod y digwyddiad, bydd gennych yr opsiwn i rannu unrhyw brofiadau personol o'r Menopos (os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i wneud hynny), ond hefyd i gael mewnwelediad o brofiadau sy’n cael eu rhannu.

Anfonwch eich cwestiynau ymlaen llaw

Er mwyn ein helpu i ateb cymaint o'ch cwestiynau â phosibl yn ystod y sesiwn, rydym yn eich gwahodd i anfon unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at: CTM.News@wales.nhs.uk

Ychwanegwch y pwnc hwn at eich e-bost - digwyddiad CTM Menopos (18 Hydref).

Cwrdd â'n harbenigwyr CTM

Dr Nadia Hikary-Bhal

Dechreuodd Nadia ei thaith ym maes iechyd menywod yn gynnar iawn mewn bywyd, gan gerdded yn ôl troed ei thad-cu a’i thad gan fod y ddau ohonyn nhw’n Gynaecolegwyr. Gydag ymrwymiad dros chwarter canrif, mae Nadia wedi ymroi i faterion iechyd ac addysg menywod. Mae ei thaith wedi'i haddurno â nifer o gymwysterau ac anrhydeddau. Un o'i hoffterau pennaf yw gwrando ar fenywod, hyrwyddo cydraddoldeb a bod yn rhan o lunio polisïau iechyd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae diddordebau Nadia wedi symud tuag at wella iechyd canol oes, ymchwilio i feddygaeth ffordd o fyw, ac archwilio'r wyddoniaeth y tu ôl i heneiddio'n iach. Cafodd Nadia ei phenodi yn Arweinydd Gwasanaeth Menopos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Mehefin 2023 ac mae’n gweithio ar brosiectau cydweithredol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, gan newid tirwedd gwasanaethau Menopos yn y bwrdd iechyd.

Mae Nadia yn briod â Kiron, Wrogynaecolegydd Ymgynghorol. Mae eu bywydau prysur yn cynnwys nid yn unig pedwar o blant a phedwar anifail anwes ond hefyd gweithrediad Infiniti Healthcare, sef clinig iechyd menywod preifat, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, De Cymru ac sy'n enwog am ei ofal eithriadol i fenywod.

Dr Liza Thomas-Emrus

Mae Dr Liza Thomas-Emrus yn feddyg teulu ac yn arbenigwraig mewn Meddygaeth Ffordd o Fyw gyda ffocws ar helpu cleifion i wneud newidiadau ymarferol a chynaliadwy i’w ffordd o fyw er mwyn gwella eu hiechyd hirdymor.

Fel yr Arweinydd Clinigol ar gyfer y Gwasanaeth Gwella Lles (a elwir yn WISE), mae Liza yn cefnogi cleifion trwy integreiddio cymorth ar gyfer cwsg, lles, maeth, ymarfer corff, cysylltiad cymdeithasol a lleihau ymddygiadau niweidiol.

Mae hi'n angerddol am ofal Menopos, gan bwysleisio sut y gall dull meddyginiaeth ffordd o fyw helpu i wella symptomau menywod ochr yn ochr ag unrhyw reolaeth ffarmacoleg sydd ei hangen.

Mae ei gwaith yn blaenoriaethu grymuso cleifion a gofal cyfannol, personol ar gyfer lles hirdymor.

Dr Emma-Marie Williams

Mae Dr Emma-Marie Williams yn Brif Seicolegydd Clinigol ac yn Gynghorydd Seicoleg i WISE. Mae Emma’n credu bod hunanymwybyddiaeth yn ‘archbŵer’ ac mae’n gweithio i gynyddu dealltwriaeth unigolion o’r rhesymau pam eu bod yn cael trafferth, pam eu bod yn teimlo’n sownd ac archwilio beth sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Mae newid o unrhyw ffurf yn anodd, felly mae Emma yn credu ei bod yn hanfodol archwilio beth sy'n ysgogi pobl i newid a beth yw eu nodau fel eu bod yn deall beth fyddai'n gwneud newid yn werth yr holl ymdrech.

Mae Emma yn defnyddio nifer o fodelau Seicolegol gwahanol i gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau nid yn unig i oroesi eu brwydrau ond i ffynnu er gwaethaf hynny, gan gerfio'r ansawdd bywyd gorau posibl.


Mae hon yn mynd i fod yn sesiwn hollol wych a gobeithio y gallwch chi ymuno â ni!

Os na allwch ddod i'r sesiwn hon, peidiwch â phoeni, gan y bydd yn cael ei recordio a bydd ar gael ar ein gwefan CTM a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.

10/10/2024