Neidio i'r prif gynnwy

Coeden Nadolig i gofio plant yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Cafodd yr Adran Achosion Brys Pediatrig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ymwelwyr arbennig yr wythnos hon. Daeth plant o Ysgol Gynradd Fochriw i'r adran i weld y goeden Nadolig y gwnaethon nhw a'u ffrindiau dosbarth helpu i'w chreu.

Roedd Victoria Hughes, Rheolwr yr Uned, ac Esyld Watson, meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth frys pediatrig ac oedolion, yn awyddus bod y plant sydd wedi marw yn yr Uned yn cael eu cofio a bod eu henwau, os oedd eu teuluoedd yn dymuno, yn cael lle yn yr uned. Cafodd Victoria y syniad o gynnwys y gymuned yn y prosiect, felly gofynnodd i'r sefydliad 2wish am gefnogaeth — mae 2wish yn cefnogi teuluoedd sydd wedi profi marwolaeth sydyn person ifanc.

Ar ôl ymgynghori â 2wish a theuluoedd, mae eu syniad bellach yn realiti, ac mae ganddyn nhw goeden Nadolig hyfryd wedi'i gwneud â llaw yn yr adran i gofio am y plant sydd wedi marw. O’r gwaelod i fyny, mae'r goeden Nadolig wedi'i gwneud o brintiau llaw disgyblion Ysgol Gynradd Fochriw ac yna printiau llaw wedi'u torri allan ar gyfer dail, sef gwaith Ysgol Gynradd Goetre ym Merthyr Tudful. Mae'r sêr yn coffáu plant sydd wedi marw ac sydd wedi cael eu cefnogi gan 2wish, gyda neges gan eu rhieni ar gefn y seren. Cafodd yr addurniadau eu gwneud gan blant yn yr adran sydd wedi bod yn gleifion dros yr wythnosau diwethaf ac, yn olaf, ar frig y goeden mae sawl robin goch sydd ag enwau'r staff sy'n gweithio yn yr adran.

Dywedodd Victoria Hughes, uwch-nyrs yn yr uned: “Rwy'n newydd i’r swydd ond rwyf bob amser wedi cynnwys y gymuned mewn prosiectau lle y gallaf wneud hynny. Roeddwn i’n awyddus i ddechrau cynnwys y gymuned yn yr uned hon ac roeddwn i’n teimlo bod y Nadolig yn gyfle delfrydol i wneud hynny ar gyfer ein prosiect cyntaf. Mae pawb sydd wedi cymryd rhan wedi bod yn frwdfrydig iawn, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’n wych ein bod ni wedi gallu cynnwys rhieni ein sêr dymuniadau bach. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at brosiectau yn y dyfodol a fydd yn cynnwys y gymuned, yn cynnal y cysylltiadau ac yn adeiladu arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Dr Esyld Watson: “Rwyf mor falch bod y gymuned yn ymwneud â’n hadran a gobeithio mai hwn fydd y prosiect cyntaf o lawer y gallan nhw fod yn rhan ohonynt. Mae cofio ein sêr yn ychwanegiad gwych sydd o fudd i'n teuluoedd, yn ogystal â'r staff sy'n ymwneud â’u gofal.”

Llun 1: Gracie, Isla ac Eva - Ysgol Gynradd Fochriw

Llun 2: Dr Esyld Watson a Chwaer Victoria Hughes

 

22/12/22