Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Pen-y-bont ar Ogwr yn gyntaf i dreialu 'blwch pils digidol'

Mae’r prosiect cydweithredol rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei lansio’n swyddogol y mis hwn gyda’r grŵp cyntaf o bobl yn derbyn dyfais ddigidol YourMeds ar gyfer rheoli meddyginiaeth.

Blwch tabledi digidol yw YourMeds sy’n cynnwys podiau sy’n cael eu llenwi ymlaen llaw gan fferyllwyr cymunedol ac yna eu danfon yn uniongyrchol i’r defnyddiwr. Yn wahanol i reoli meddyginiaethau traddodiadol, mae YourMeds yn cynnwys cymhorthion sain a gweledol i atgoffa’r defnyddiwr pryd i gymryd ei feddyginiaeth. Mae porth ar-lein wedi’i gysylltu â’r ddyfais a fydd yn rhoi gwybod i gylch gofal, gan gynnwys ffrindiau a theulu, Gwasanaeth Tîm Ymateb Symudol a Chanolfan Derbyn Larymau (ARC) Bridgelink Telecare a Gwasanaeth Tîm Ymateb Symudol, os na fydd meddyginiaeth yn cael ei gymryd.

Dyma ddechrau cyfnod cyffrous wrth i’r rhaglen gael ei chyflwyno’n raddol dros y misoedd nesaf, gan roi amser i’r rheini sy’n cael dyfeisiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr, fferyllfeydd cymunedol, a thimau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i integreiddio’r dechnoleg yn llwyddiannus.

Dywedodd Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Bydd gallu darparu ffyrdd arloesol newydd o helpu pobl i gymryd eu meddyginiaeth yn ddiogel yn helpu i wella eu hiechyd a’u lles personol.

Mae’r agwedd monitro o bell yn bwysig gan ei bod yn galluogi teuluoedd a gwasanaethau i roi rhagor o gymorth i unigolion pan fo angen. “Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn tynnu sylw at fanteision go iawn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau sydd o fudd i ddefnyddwyr ein gwasanaeth a’u teuluoedd.”

Dywedodd Louise Baker, Arweinydd Prosiect Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Y syniad cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn oedd helpu pobl sy’n cymryd meddyginiaeth reolaidd a’u grymuso i reoli eu hiechyd a’u lles yn annibynnol. Bydd y dull cydweithredol hwn rhwng timau fferylliaeth gymunedol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth cadarn ac integredig a fydd yn sylfaen gref ar gyfer unrhyw ddatblygiadau a thrawsnewidiadau posibl yn y dyfodol oherwydd y dechnoleg hon. Mae’r dull unigryw hwn yn ei gwneud yn gyfnod cyffrous iawn i fod yn rhan o wasanaethau monitro o bell yng Nghymru.”

Mae’r dull cydweithredol hwn rhwng fferyllfeydd cymunedol, yr awdurdod lleol a gwasanaethau gofal iechyd lleol yn ddull cyntaf o’i fath yng Nghymru, a rhagwelir y bydd gan y dechnoleg botensial enfawr i drawsnewid gwasanaethau. Y gobaith yw y bydd y dechnoleg yn grymuso defnyddwyr i reoli eu hiechyd a’u lles yn annibynnol, ar yr un pryd â symleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoli adnoddau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Yn ogystal â chynyddu annibyniaeth a rhoi mwy o ryddid i ofalwyr a theuluoedd, mae’r dull newydd arloesol hwn yn sicrhau y gall pobl gael eu meddyginiaeth yn rheolaidd ac yn ein galluogi ni i gyfeirio staff ac adnoddau at wasanaethau hanfodol eraill a sicrhau arbedion sylweddol. “Mae’n ateb digidol unigryw ac mae’n un enghraifft o sut mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddarparu ffyrdd newydd o gynnig gofal a chymorth o safon i bobl.”

 

12/05/2023