Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion canser wedi'u diagnosio a'u gwella trwy gynllun peilot sydd wedi ennill gwobr Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint

Mae dau glaf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael triniaeth lwyddiannus am ganser yr ysgyfaint fel rhan o wiriad iechyd yr ysgyfaint am ddim a gynigir i drigolion yng Ngogledd Rhondda.

Lansiodd y peilot gwiriad iechyd yr ysgyfaint – y cyntaf yng Nghymru – gan BIP CTM yr hydref diwethaf. Cafodd y peilot ei sefydlu ar y cyd â'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cansera'i nod yw canfod camau cynnar canser yr ysgyfaint, cyn bod unrhyw arwyddion neu symptomau.

Ers i’r peilot ddechrau ym mis Awst 2023, mae dros 500 o bobl sy’n ysmygu neu sydd wedi ysmygu yn y gorffennol wedi cael sgan sgrinio CT dos isel. Mae’r holl wahoddiadau ar gyfer y peilot bellach wedi’u hanfon a bydd beth sydd wedi cael eu dysgu o hyn yn llywio’r gwaith cynllunio sydd ar y gweill yn awr i adolygu sut y gellid cyflwyno rhaglen genedlaethol ledled Cymru yn y dyfodol.

Cafodd Angela a Phil, y ddau yn ysmygwyr ers dros 50 mlynedd, ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint a ddaeth i’r amlwg drwy’r gwiriad iechyd yr hydref diwethaf. Mae'r ddau bellach ddim yn cael canser a byddwn nhw’n mynd i raglen fonitro pum mlynedd CTM.

Wedi eisoes rhoi’r gorau i ysmygu yn gynharach yn 2023 ac yn dioddef o asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), doedd Angela ddim yn petruso cyn cael y sgan cychwynnol ar ôl derbyn y llythyr gwahoddiad. Dyma hi’n egluro: “Roedd yn hawdd dod o hyd i’r sganiwr a chafodd popeth ei esbonio’r glir. Rydw i’n meddwl y dylai pawb fod yn gymwys ar ei gyfer [gwiriad iechyd yr ysgyfaint]; Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod gen i ganser, roeddwn i'n ffodus oherwydd cafodd ei ddal yn gynnar. Cefais beswch eithaf gwael a symptomau annwyd am dros fis, ond o'n i'n meddwl mai dim ond fy asthma oedd yn gyfrifol am hyn."

Mynegodd Phil ei ddiolchgarwch am fod yn rhan o’r peilot: “Mae'r gwiriad hwn wedi achub fy mywyd - doedd gen i ddim symptomau ac ni fyddwn wedi mynd i unman i gael gwiriad oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod bod unrhyw beth o'i le. Mae'r GIG wedi bod yn wych, roedd y driniaeth yn gyflym, ac ni welaf i ddim o’i le arno. Defnyddiais hefyd y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio ysmygu a oedd yn wych. Ar ôl fy niagnosis roeddwn i wedi rhoi’r gorau i ysmygu o fewn 6 – 8 wythnos.”

Cafodd y peilot ei gydnabod hefyd am ei lwyddiant yng Ngwobrau Moondance Canser 2024 – unig wobrau canser penodedig Cymru. Nod Gwobrau Moondance Canser yw dathlu a thynnu sylw at unigolion a thimau ar draws GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi gwasanaethau canser. Enillodd Peilot Gweithredol Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint Cymru yn y categori Canfod a Diagnosis yn Gynnar.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwobrau ar wefan Moondance Cancer Initiative.

Dywedodd Dr Sinan Eccles, Ymgynghorydd Meddygaeth Anadlol: “Rydw i’n wrth fy modd gyda chynnydd a llwyddiant y peilot hyd yn hyn. Yn bwysicaf oll, rydym wedi gallu darganfod a thrin canserau na fydden nhw wedi eu canfod fel arall ers peth amser. Yn ogystal â’r potensial i achub bywydau cleifion, mae cael cydnabyddiaeth genedlaethol i’r peilot yng Ngwobrau Moondance Canser yn wych.”

Mae gwerthusiad o'r cynllun peilot eisoes ar y gweill, gan lywio cynlluniau Cymru ar gyfer rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint yn y dyfodol. Bwriedir cyflwyno pâr o adroddiadau gwerthuso i'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser ym mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025.

Erthyglau Cysylltiedig:

Cefnogwyd y rhaglen beilot gan y sefydliadau canlynol:

  • Gofal Canser Tenovus
  • Menter Canser Moondance
  • Bristol Myers Squibb Pharmaceuticals Limited (BMS)
  • Roche Products Ltd
  • MSD (Merck Sharp Dohme (UK) Limited)
  • Novartis Pharmaceuticals UK Limited

11/07/2024