Neidio i'r prif gynnwy

Cerdded-i-mewn am frechiad rhag COVID-19 tan ddiwedd mis Rhagfyr

Mae modd cerdded-i-mewn i gael eich brechu rhag COVID-19 ym mhob un o’n canolfannau brechu cymunedol

Dyddiad

Oriau

23.12.21

8am – 6pm

24.12.21

8am – 12pm

25.12.21

Ar gau

26.12.21

Ar gau

27.12.21

8am – 6pm

28.12.21

8am – 6pm

29.12.21

8am – 6pm

30.12.21

8am – 6pm

31.12.21

8am – 2pm

 

Mae’r sesiynau cerdded-i-mewn ar gael i’r canlynol:

  • Pob dos 1af – 12 oed neu hŷn
  • Pob 2il ddos – 18 oed neu hŷn (mae angen apwyntiad ar y rheiny rhwng 12 a 17 oed)
  • Pob 3edd ddos – y rheiny gyda system imiwnedd wan
  • Pob dos atgyfnerthu – y rheiny sy’n 16 oed neu hŷn sydd wedi methu â dod i’w hapwyntiad neu sydd am gael apwyntiad cynharach na’u hapwyntiad sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Ionawr
  • Myfyrwyr prifysgol sy’n dychwelyd ar gyfer y gwyliau
  • Peidiwch â cherdded i mewn os oes apwyntiad eisoes gyda chi cyn y flwyddyn newydd – cadwch at yr apwyntiad hwnnw os yw’n bosib

Cofiwch:

  • 2il ddos – Rhaid aros 8 wythnos ar ôl eich dos 1af
  • 3edd ddos – Rhaid aros 8 wythnos ar ôl eich 2il ddos
  • Dos atgyfnerthu – Rhaid aros 13 wythnos ar ôl eich 2il ddos
  • Oedolion 18 oed neu hŷn – Rhaid bod 28 diwrnod wedi bod ar ôl i chi gael eich heintio â COVID-19

Dyma fanylion canolfannau brechu cymunedol BIP CTM:

  • Llantrisant (Canolfan Hamdden Llantrisant, CF72 8DJ)
  • Pen-y-bont ar Ogwr (Ravens Court, CF31 4AP)
  • Merthyr Tudful (Canolfan Hamdden Merthyr Tudful, CF48 1UT)
  • Aberpennar (Canolfan Fowlio Dan Do Cwm Cynon, CF45 4DA)
  • Rhondda (Canolfan Chwaraeon Rhondda, CF41 7SY)