Mae modd cerdded-i-mewn i gael eich brechu rhag COVID-19 ym mhob un o’n canolfannau brechu cymunedol
Dyddiad
|
Oriau
|
23.12.21
|
8am – 6pm
|
24.12.21
|
8am – 12pm
|
25.12.21
|
Ar gau
|
26.12.21
|
Ar gau
|
27.12.21
|
8am – 6pm
|
28.12.21
|
8am – 6pm
|
29.12.21
|
8am – 6pm
|
30.12.21
|
8am – 6pm
|
31.12.21
|
8am – 2pm
|
Mae’r sesiynau cerdded-i-mewn ar gael i’r canlynol:
- Pob dos 1af – 12 oed neu hŷn
- Pob 2il ddos – 18 oed neu hŷn (mae angen apwyntiad ar y rheiny rhwng 12 a 17 oed)
- Pob 3edd ddos – y rheiny gyda system imiwnedd wan
- Pob dos atgyfnerthu – y rheiny sy’n 16 oed neu hŷn sydd wedi methu â dod i’w hapwyntiad neu sydd am gael apwyntiad cynharach na’u hapwyntiad sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Ionawr
- Myfyrwyr prifysgol sy’n dychwelyd ar gyfer y gwyliau
- Peidiwch â cherdded i mewn os oes apwyntiad eisoes gyda chi cyn y flwyddyn newydd – cadwch at yr apwyntiad hwnnw os yw’n bosib
Cofiwch:
- 2il ddos – Rhaid aros 8 wythnos ar ôl eich dos 1af
- 3edd ddos – Rhaid aros 8 wythnos ar ôl eich 2il ddos
- Dos atgyfnerthu – Rhaid aros 13 wythnos ar ôl eich 2il ddos
- Oedolion 18 oed neu hŷn – Rhaid bod 28 diwrnod wedi bod ar ôl i chi gael eich heintio â COVID-19
Dyma fanylion canolfannau brechu cymunedol BIP CTM:
- Llantrisant (Canolfan Hamdden Llantrisant, CF72 8DJ)
- Pen-y-bont ar Ogwr (Ravens Court, CF31 4AP)
- Merthyr Tudful (Canolfan Hamdden Merthyr Tudful, CF48 1UT)
- Aberpennar (Canolfan Fowlio Dan Do Cwm Cynon, CF45 4DA)
- Rhondda (Canolfan Chwaraeon Rhondda, CF41 7SY)