Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau brechu cymunedol Llantrisant a Merthyr Tudful yn cau dros dro oherwydd etholiadau lleol

Bydd dwy o ganolfannau brechu cymunedol y Bwrdd Iechyd yn cau ddydd Iau a dydd Gwener yma (5 a 6 Mai) oherwydd yr etholiadau lleol.

Bydd y ganolfan yn Llantrisant (Canolfan Hamdden Llantrisant) a’r ganolfan ym Merthyr Tudful (Canolfan Hamdden Merthyr Tudful) yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfrif yr etholiad.

Mae'n golygu mai'r cyfle olaf i gerdded i mewn am frechlyn fydd dydd Mercher (4 Mai).  Bydd y ddwy ganolfan yn cau am 4.30pm ddydd Mercher ac yn ailagor fel yr arfer ddydd Llun (9 Mai).

Fydd hyn ddim yn effeithio ar ganolfan Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd ar agor ddydd Iau a dydd Gwener.

Fodd bynnag, bydd y tair canolfan ar gau y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 7 Mai a dydd Sul 8 Mai), a bydd pob un yn dychwelyd i'r arfer ddydd Llun.

Tra bod y canolfannau ar gau, bydd ein timau brechu symudol allan yn y gymuned yn rhoi dos atgyfnerthu’r gwanwyn i’n cleifion sy’n gaeth i’r ty a’n preswylwyr hyn mewn cartrefi gofal.

 

Canolfan Frechu Gymunedol

Iau

5 Mai

Gwener

6 Mai

Sadwrn

7 Mai

Sul

8 Mai

Llun

9 Mai

Llantrisant

Ar gau

Ar gau

Ar gau

Ar gau

Ar agor fel yr arfer

Merthyr Tudful

Ar gau

Ar gau

Ar gau

Ar gau

Ar agor fel yr arfer

Pen-y-bont ar Ogwr

Ar agor fel yr arfer

Ar agor fel yr arfer

Ar gau

Ar gau

Ar agor fel yr arfer