Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd coch am wres eithafol a fydd yn cwmpasu rhanbarth Cwm Taf Morgannwg dros yr ychydig ddyddiau nesaf.
Rydym yn disgwyl cyfnod eithriadol o dywydd poeth a llaith, a allai gael effaith ar y boblogaeth yn gyffredinol.
Gall unrhyw un fynd yn sâl pan fydd y tywydd yn boeth. Y rhai sydd fwyaf mewn perygl yw pobl hŷn, yn enwedig y rhai dros 65 oed, plant ifanc iawn, pobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes a'r rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn cartrefi gofal.
Cyngor i'r cyhoedd
Arhoswch allan o'r gwres
Ceisiwch aros dan do, yn enwedig rhwng 11am a 3pm
Osgowch weithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon, DIY neu arddio. Os nad yw hyn yn bosibl, gwnewch hynny yn ystod rhannau oerach y dydd.
Defnyddiwch eli haul neu atalwyr haul i helpu i atal llosg haul
Gorchuddiwch â chrys-t neu ddillad rhydd eraill
Gwisgwch het i gysgodi'ch pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid
Arhoswch yn y cysgod lle bo modd
Oeri
Yfwch ddigon o ddŵr, o leiaf wyth gwydraid y dydd. Osgowch alcohol, te neu goffi gan y gallant achosi dadhydradiad
Cymerwch fath neu gawod oer, neu sblasiwch ddŵr oer ar eich wyneb i oeri
Cadwch eich amgylchedd yn oer
Diffoddwch oleuadau ac offer trydanol diangen - maen nhw'n cynhyrchu gwres
Cadwch blanhigion dan do a bowlenni o ddŵr yn y tŷ - mae anweddiad yn helpu i oeri'r aer
Os yn bosibl, symudwch i ystafell oerach, yn enwedig ar gyfer cysgu
Gall ffaniau trydan roi rhywfaint o ryddhad, ond defnyddiwch nhw dim ond os oes angen
Arhoswch yn y rhannau oeraf o'r adeilad cymaint â phosibl
Cadwch ystafelloedd yn gysgodol ac yn oer trwy gau bleindiau a llenni ac agor ffenestri
Gofalwch am eraill
Cadwch lygad ar bobl ynysig, oedrannus, sâl neu ifanc iawn a gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu cadw'n oer
Gwnewch yn siŵr nad yw babanod, plant na phobl hŷn yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn ceir llonydd
Gwiriwch gymdogion, teulu neu ffrindiau oedrannus neu sâl bob dydd os yn bosibl
Byddwch yn effro a ffoniwch feddyg neu'r gwasanaethau cymdeithasol os yw rhywun yn teimlo'n sâl neu os oes angen cymorth pellach
Os oes gennych broblem iechyd
Cadwch feddyginiaethau islaw 25°C neu yn yr oergell (darllenwch y cyfarwyddiadau storio ar y pecynnu)
Ceisiwch gyngor meddygol os ydych chi'n dioddef o gyflwr iechyd cronig/yn cymryd sawl meddyginiaeth
Os byddwch chi neu eraill yn teimlo’n dost
Ceisiwch gael cymorth os ydych chi'n teimlo'n benysgafn, yn wan, yn bryderus neu os oes gennych chi syched dwys a phen tost
Symudwch i le oer cyn gynted â phosibl a mesurwch dymheredd eich corff
Yfwch ychydig o ddŵr neu sudd ffrwythau i ailhydradu
Os oes gennych chi losg haul, efallai y bydd yr uned mân anafiadau yn gallu helpu
Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr ynglŷn â'ch symptomau, ewch i wefan GIG 111 Cymru neu ffoniwch 111
Am ragor o gyngor ar gadw'n ddiogel ac yn oer mewn tywydd poeth, ewch i'r dudalen we hon.