Mae cynlluniau i gyflwyno system bresgripsiynau electronig newydd yn holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw (Dydd Mawrth, 3 Medi 2024) gyda’r cyhoeddiad bod y bwrdd iechyd wedi dewis Nervecentre fel ei gyflenwr technoleg.
Bydd y system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig newydd, a elwir yn ePMA, yn disodli prosesau papur, gan helpu i roi mwy o amser i glinigwyr ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon i gleifion.
Bydd yn symleiddio rhagnodi trwy ddisodli siartiau cyffuriau papur ar welyau cleifion gyda system ddigidol newydd. Bydd hyn yn lleihau’r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth, yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyfredol ac ar gael yn rhwydd i gefnogi gwneud penderfyniadau clinigol, ac yn y pen draw yn gwella gofal cleifion.
Mae cyflwyno ePMA yn rhan allweddol o’r rhaglen Moddion Digidol genedlaethol, a arweinir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) i wneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a chlinigwyr ym mhobman yng Nghymru.
Dywedodd Dom Hurford, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yn BIPCTM: “Bydd digideiddio’r system ragnodi yn ein hysbytai nid yn unig yn gwneud gofal yn fwy diogel i’n cleifion, bydd hefyd yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Nervecentre i gyflwyno’r dechnoleg newydd hon a fydd o fudd i’n defnyddwyr gwasanaeth a’n timau clinigol.”
BIPCTM yw’r ail fwrdd iechyd yng Nghymru i ddewis Nervecentre fel ei gyflenwr ePMA yn dilyn proses dendro drylwyr a arweinir yn glinigol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd wedi partneru â Nervecentre.
Dywedodd Lesley Jones, Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen ePMA yn IGDC: “Mae hon yn garreg filltir allweddol arall ar gyfer ePMA yng Nghymru ac mae mor gyffrous bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach gam yn nes at ddechrau cyflwyno’r dechnoleg hon a fydd yn darparu gofal mwy diogel i gleifion ac yn helpu staff i ddod yn fwy effeithlon.
“Bydd symud o brosesau papur i system ddigidol yn chwyldroi sut mae meddyginiaethau’n cael eu rheoli, a gofal iechyd yn cael ei ddarparu. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi ein cydweithwyr wrth iddyn nhw roi’r system newydd ar waith ym mhob ward ym mhob ysbyty yn ardal y BIP.”
Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno i ysbytai ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr er budd y boblogaeth o 450,000.
Dywedodd Paul Volkaerts, Prif Swyddog Gweithredol Nervecentre: “Rydym wrth ein bodd i fod yn bartner i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar eu taith trawsnewid digidol. Bydd y bartneriaeth hon yn cynnig buddion trawsnewidiol i glinigwyr ac, yn y pen draw, yn darparu gofal gwell i gleifion ar draws y rhanbarth.”
Mae cyflwyno ePMA yn cael ei gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o raglen trawsnewid digidol i wella gofal ar draws GIG Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans, “Rydw i wrth fy modd gyda’r cyhoeddiad heddiw bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi dewis Nervecentre fel ei bartner ePMA. Y bwrdd iechyd yw’r trydydd i gadarnhau ei gynlluniau i gyflwyno ePMA ar draws ei holl ysbytai ers mis Mawrth, gyda’r rhaglen genedlaethol yn elwa o fuddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i ddigideiddio pob agwedd ar ragnodi a rhoi meddyginiaethau yng Nghymru.”
“Mae gan ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n electronig y potensial i drawsnewid sut mae gofal yn cael ei ddarparu yn ein hysbytai, gan wella effeithlonrwydd a diogelwch, a bod o fudd i gleifion a chlinigwyr fel ei gilydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld tîm y bwrdd iechyd yn parhau â’u cynnydd rhagorol gyda’r gwaith pwysig hwn.”
03/09/2024