Yn ddiweddar, nododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg garreg filltir bwysig, gan ddathlu cydweithwyr sydd wedi rhoi 40 mlynedd neu fwy o wasanaeth ymroddedig i'r GIG.
Roedd y digwyddiad arbennig yng Ngwesty’r Heritage Park, wedi dod â staff hirhoedlog o bob cwr o’r sefydliad ynghyd am brynhawn o fyfyrio, cydnabod a dathlu. Cafodd y digwyddiad hwn ei gefnogi yn garedig gan Elusen GIG CTM, gan helpu i ddiolch i'r rhai sydd wedi treulio degawdau yn gofalu am gleifion ac yn cefnogi cymunedau ledled Cwm Taf Morgannwg.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Peter Vaughan, Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Canol Morgannwg, a ganmolodd ymrwymiad y staff a gyrhaeddodd y garreg filltir eithriadol hon. Dywedodd Peter:
“Roeddwn i eisiau dweud diolch yn fawr iawn a llongyfarchiadau i holl aelodau’r staff sydd wedi cyflawni’r garreg filltir wych hon o 40 mlynedd o wasanaeth yn gweithio yn ein cymunedau a helpu pobl sydd wir angen eu gofal. Llongyfarchiadau i chi gyd.”
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys negeseuon diolch gan uwch arweinwyr o fewn y Bwrdd Iechyd. Rhannodd Jonathan Morgan, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, neges fideo yn tynnu sylw at bwysigrwydd staff hirhoedlog i'r GIG a'r neges bwerus maen nhw'n ei hanfon at genedlaethau'r dyfodol sy'n ystyried gyrfa ym maes gofal iechyd.
Yn ei neges, dywedodd Jonathan:
“Nid yw’r GIG yn ddim byd heb y staff rydyn ni’n eu cyflogi – pobl sydd wedi ymroi oes o wasanaeth i’n cleifion ac i’n cymunedau.
Dw i'n meddwl ei fod yn anfon neges bwerus a chyffrous iawn at yr holl bobl hynny sy'n ystyried gyrfa yn y GIG: dewch i ymuno â ni. Dewch i ymuno â ni i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Dewch i ymuno â theulu’r GIG sy’n darparu gofal mor rhagorol ar draws yr ystod o wasanaethau a ddarparwn, yn enwedig ar adegau pan fo pobl fwyaf agored i niwed a’r angen mwyaf.
Mae dathliad heddiw yn atgof o'r ymroddiad hwnnw".
Gwyliwch y neges fideo lawn gan Jonathan Morgan, Cadeirydd, yma.
Roedd y dathliad yn cydnabod nid yn unig hyd gwasanaeth, ond y cyfraniad rhyfeddol y mae'r cydweithwyr hyn wedi'i wneud i gleifion, teuluoedd a chymunedau dros bedwar degawd — gan weld newid sylweddol yn aml o fewn y GIG wrth barhau i ddarparu gofal gyda phroffesiynoldeb a thrugaredd.
Mae lluniau o'r digwyddiad, yn dal rhai o'r uchafbwyntiau a'r eiliadau balchder a rennir, ar gael i'w gweld yma - Gwobrau Cydnabyddiaeth Gwasanaeth Hir 40 Mlynedd 2026[Text Wrapping Break][Text Wrapping Break]Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymrwymo i gydnabod a gwerthfawrogi ymroddiad ei weithlu.[Text Wrapping Break][Text Wrapping Break]Am wybodaeth am swyddi a gweithio i CTM, ewch i Swyddi – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg