Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ymhlith rhestr fer ar gyfer gwobrau canser cyntaf Cymru

Mae unigolion a thimau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi’u cydnabod ar restr fer Gwobrau Canser Moondance am eu cyflawniadau a’u harloesedd mewn gwasanaethau canser dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae cwmni Moondance Cancer Initiative yn bodoli i ganfod, ariannu a hybu pobl wych a syniadau dewr er mwyn gosod Cymru ar flaen y gad o ran goroesi canser. Nod y gwobrau yw dathlu a thynnu sylw at bobl ar draws y gwasanaeth iechyd a’i bartneriaid sydd wedi cynnal ac arloesi gwasanaethau canser er gwaetha’r amgylchiadau eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Daeth cyfanswm o 125 o enwebiadau i law a detholwyd rhestr fer o 62 o sefydliadau, timau ac unigolion ar draws 11 categori, gan gynnwys ymateb i Covid-19, profiad gwell i gleifion ac arloesi o ran canfod canser a darparu diagnosis cynnar.

Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mae Sinan Eccles, Meddyg Anadlol Ymgynghorol a Zoe Barber, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron, yn ogystal â’r tîm Adsefydlu Amlddisgyblaethol, tîm Hawliau Lles Macmillan a’r tîm Endosgopi Trawsdrwynol.


Bydd y gwobrau’n cael eu cynnal ddydd Iau 16 Mehefin yn y Depot, Caerdydd, o dan ofal y cyflwynydd hoffus o’r BBC, Jason Mohammad.
 

Wrth sôn am Wobrau Canser Moondance, meddai Dr Megan Mathias, Prif Weithredwr cwmni Moondance Cancer Initiative: “Drwy gynnal y gwobrau yma, rydyn ni am ddiolch i’r bobl sy’n gweithio’n ddiflino yn ystod pob cam o’r broses canfod, rhoi diagnosis a thrin canser gan ysbrydoli atebion ar gyfer goroesi yn y dyfodol. Mae’r gwobrau yma’n dangos bod gwelliant yn bosib ac yn digwydd ar draws gwasanaethau canser Cymru.

“Mae dod o hyd i lawenydd mewn gwaith yn hanfodol bwysig i gyflawni ein nod cyffredin o greu Cymru lle mae rhagor o bobl yn goroesi canser. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y noson o ddathlu yn helpu i ailgynnau’r ymdeimlad yna o lawenydd, i gydnabod llwyddiannau’r gorffennol, ac edrychwn ymlaen at y llwyddiannau rhyfeddol sydd eto i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i: https://moondance-cancer.wales/awards