Neidio i'r prif gynnwy

Blychau Seren Dwt i deuluoedd CTM

Erbyn hyn, bydd darpar rieni neu'r rheiny mae eu babanod sydd wedi eu geni â Syndrom Down ar draws Cwm Taf Morgannwg yn cael blwch 'Seren Dwt'. Daw hyn ar ôl i ddwy fam fynd ati i newid y cymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru.

Mae gan Laura a Louise blentyn yr un sydd wedi cael diagnosis o Syndrom Down ar ôl eu geni, ac maen nhw'n gweithio gyda Chwm Taf Morgannwg a Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru i greu blychau arbennig i rieni plant â Syndrom Down.

Ar ôl rhannu eu profiad o gael plant â Syndrom Down, penderfynon nhw lansio blychau 'Seren Dwt'.

Dyma nhw’n egluro: “Pan gafodd ein plant eu geni, cawsom ni 'wybodaeth' am Syndrom Down yn yr ysbyty, ac roedd ansawdd yr wybodaeth honno’n wael iawn. Roedd hi’n teimlo fel dogfen brofedigaeth.

“Roedden ni’n ffodus i gael cariad a chymorth gan deulu a ffrindiau. Fodd bynnag, rydyn ni am wneud yn siŵr fod POB rhiant sy'n cael babi â Syndrom Down yn teimlo bod eu babi'n cael ei ddathlu a'i groesawu yn y byd hwn o'r eiliad iddyn nhw gael eu geni, fel y dylai ddigwydd ar gyfer pob babi.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y blychau hyn yn rhoi'r cysur a'r cymorth sydd eu hangen ar rieni newydd ar adeg sy'n gallu bod yn ddryslyd ac yn ofidus. Bydd hyn yn dathlu eu babi newydd gyda'r cariad mae’n ei haeddu, ac yn cyfeirio teuluoedd yn raddol at y cymorth sydd ar gael, yn lleol ac yn genedlaethol, pe baen nhw am fanteisio arno.

“Yn y blychau mae pethau hyfryd i ddathlu genedigaeth babi, gyda gwybodaeth i gyfeirio rhieni pan fyddan nhw'n barod amdani, a phan fyddan nhw am ei chael hi, er mwyn cael rhagor o wybodaeth yn hytrach na gorfod troi at Google a chael llawer o hen ddelweddau a gwybodaeth.”

Yn y llun mae Sarah Fox, Pennaeth Bydwreigiaeth CTM, gyda Laura a Louise a'u plant, Mya ac Arwel.