Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn dychwelyd canolfannau brechu cymunedol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dychwelyd dwy o'i bum canolfan frechu gymunedol fel bod modd eu defnyddio nhw eto fel canolfan hamdden a chanolfan bowlio dan do.

Mae pum canolfan frechu gyda’r Bwrdd Iechyd: ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Llantrisant, Rhondda ac Aberpennar.

Bydd ein canolfan yn Rhondda ac yn Aberpennar yn cau ddydd Gwener 18 Mawrth ac yn cael eu dychwelyd yn swyddogol at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar ddiwedd y mis.

Erbyn hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau cam newydd o'i raglen frechu rhag COVID-19, ac yn cynllunio sut a ble y bydd brechlynnau'n cael eu cynnig i'w gymunedau yn y dyfodol.

Ers dyddiau cynnar y rhaglen frechu, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda'r tri awdurdod lleol yn ei ardal a ddarparodd y lleoliadau ar gyfer ei ganolfannau brechu cymunedol (CBS Rhondda Cynon Taf, CBS Pen-y-bont ar Ogwr a CBS Merthyr Tudful). Mae'r partneriaethau hyn wedi bod yn hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant ysgubol y rhaglen frechu rhag COVID-19.

Meddai Julie Keegan, Cyfarwyddwr Cynllunio Cynorthwyol ac Arweinydd Rhaglen Frechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:  “Ein prif flaenoriaeth drwy’r holl raglen oedd cynnig y brechlyn yn gyflym ac yn ddiogel i'n cymunedau er mwyn eu diogelu nhw rhag COVID-19.  Mae ein canolfannau brechu wedi chwarae rhan hanfodol bwysig yn hynny o beth.

“Trwy’r holl raglen, rydyn ni wedi cadw mewn cof y ffaith fod pedair o’r pump ohonyn nhw'n ganolfannau hamdden pwysig yn eu hardaloedd. Ein nod hirdymor felly oedd cyrraedd pwynt lle gallem ni ddychwelyd ein canolfannau brechu at ein hawdurdodau lleol, fel bod modd i bobl eu defnyddio nhw unwaith eto at eu dibenion gwreiddiol.”

Mae canolfan frechu gymunedol Rhondda yng Nghanolfan Chwaraeon Rhondda ac mae canolfan frechu gymunedol Aberpennar yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon.

Meddai Julie: “Diolch i gynifer o bobl ddaeth i gael eu brechu rhag COVID-19, rydyn ni wedi cyrraedd y garreg filltir hon yn y rhaglen ac rydyn ni ar y pwynt lle gallwn ni ddychwelyd ein canolfan yn Rhondda ac yn Aberpennar.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at eu gweld nhw’n cael eu defnyddio at eu gwir ddiben unwaith eto.

“Hoffwn i ddiolch i bawb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am eu cefnogaeth drwy gydol y rhaglen frechu.  Dyma enghraifft wirioneddol o weithio mewn partneriaeth ar ei orau.”

Bydd y canolfannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Llantrisant yn parhau i fod ar agor, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal dau glinig ‘brechu yn y car’ arall.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Cyngor RhCT yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â BIP Cwm Taf Morgannwg drwy gydol y pandemig i ddiogelu trigolion ac i gefnogi'r gwaith o frechu pobl, er mwyn i ni allu dychwelyd at fywyd fel o’r blaen.

“Mae dychwelyd y lleoliadau hyn at Gyngor RhCT yn garreg filltir bwysig yn y pandemig, a dylid ei hystyried yn gam cadarnhaol arall tuag at ddysgu i fyw gyda'r feirws.

“Bydd angen cynnal gwaith yn y ddau leoliad i wneud yn siŵr eu bod nhw’n barod i groesawu cwsmeriaid unwaith eto, ac rydyn ni’n rhagweld y bydd Canolfan Chwaraeon Rhondda’n barod erbyn diwedd mis Ebrill ac y bydd Canolfan Bowlio Cwm Cynon yn agor yn yr haf.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi miliwn o frechlynnau rhag COVID-19 i’w drigolion ers dechrau'r rhaglen. 

Mae canolfan frechu gymunedol Rhondda wedi cyfrannu mwy na 111,000 o'r brechlynnau hyn ac mae canolfan Aberpennar wedi cyfrannu 103,000.

Mae rhagor o wybodaeth ar y tudalennau brechu ar wefan BIP Cwm Taf Morgannwg. Maen nhw’n cynnwys cwestiynau cyffredin ynghylch pam mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud y penderfyniad hwn a ble bydd y rheiny gafodd eu brechu yng nghanolfannau Rhondda ac Aberpennar yn mynd i gael dos atgyfnerthu’r gwanwyn. Mwy o wybodaeth: Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)