Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn Codi Pontydd gyda chelfyddydau creadigol yn Nhreorci

Mae Uned Gwella â Chymorth Iechyd Meddwl BIP Cwm Taf Morgannwg yn Nhreorci wedi bod yn cydweithio ag artistiaid lleol i wella iechyd a lles trwy brosiect celfyddydau creadigol o’r enw 'Codi Pontydd' (Building Bridges).

Mae ‘Codi Pontydd’ yn dilyn prosiect llwyddiannus cynharach a oedd yn cynnwys dau artist Chris Walters (artist gweledol) a Graham Hartill (awdur) yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion am gyfnod o 12 wythnos i wella iechyd a lles trwy fynediad i’r celfyddydau trwy gynnig dosbarthiadau celfyddydol. Daeth hyn i ben gydag arddangosfa o waith y cleifion o'r enw ‘Lliwiau Gobaith' (Colours of Hope), a gafodd ei arddangos yn Ysbyty George Thomas (YGT) y llynedd.

Darganfyddodd y tîm fod y prosiectau cychwynnol hyn wedi cael effaith bwerus a'u bod yn dechrau dod â chymuned y ward ynghyd ag aelodau lleol o gymuned Treorci. Cafodd Codi Pontydd ei sefydlu i gryfhau'r cysylltiadau hyn ymhellach fyth.

Nod y prosiect Codi Pontydd yw gwella iechyd meddwl a lles pobl wrth dorri rhwystrau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, trwy herio a newid canfyddiadau ac agweddau pobl tuag at iechyd meddwl.

Dros y flwyddyn ddiwethaf trwy'r prosiect Codi Pontydd, dychwelodd Chris a Graham i weithio gyda chleifion a staff yn Ysbyty George Thomas i gymryd rhan. Maent wedi bod yn cynnal dosbarthiadau celf ac yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â gwahanol ddeunyddiau creadigol, gan gynnwys paentio, gwaith clai a deunyddiau eraill, ochr yn ochr â barddoniaeth, straeon a geiriau caneuon. Drwy gynnig mynediad i’r celfyddydau drwy’r dosbarthiadau a’r sesiynau creadigol hyn, mae Chris a Graham wedi rhoi llwyfan i’r cleifion a staff yr Uned Gwella â Chymorth i gyfathrebu a mynegi eu hunain yn greadigol, a thrwy wneud hynny, ar y cyd wella eu hiechyd, eu hiechyd meddwl a’u lles.

Dywedodd Chris: “Mae wedi bod yn wych gwylio'r cleifion yn gwella yn y gwahanol brosiectau celf - nawr maen nhw'n bwrw ymlaen ag ef. Yn lle i mi ddweud wrthyn nhw beth i'w wneud, nawr maen nhw'n dweud wrtha i beth i'w wneud!”.

Dywedodd Graham: “Mae'n hynod ddiddorol clywed pobl yn adrodd straeon am eu bywydau - mae gan bawb fil o straeon i'w hadrodd, atgofion trist, hapus, melys a theyrngedau i'w hanwyliaid. Rydw i’n credu bod y gwaith hwn yn helpu pobl i deimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw a bod ganddyn nhw hefyd hawl i'r pethau da mewn bywyd. Daw hunan-barch trwy wybod bod gan bobl ddiddordeb yn beth sydd gennych i'w ddweud ac ysgrifennu amdano. Mae'n wych bod y cyfle hwn ar gael yn YGT.

Dywedodd un o’r cleifion a gymerodd ran yn y prosiect: "Rydw i wedi mwynhau gwneud y gwaith celf. Yr holl waith dwi wedi bod yn creu, dwi wedi bod yn ei roi i fy mam ac yn gwybod y gallwn i edrych yn ôl arno mewn blynyddoedd i ddod."

A dywedodd un arall: “Mae'n ymlaciol ac yn lleddfol. Mae'n tynnu pwysau'r dydd i ffwrdd.”

Dywedodd Laura Freeman, Seicolegydd Clinigol yn Ysbyty George Thomas: “Gall celf fod yn gyfartalwr anhygoel ac mae gan gyfryngau creadigol y pŵer i ddod â phobl allan o'u hunain a helpu i gysylltu â'r rhai o'u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys pobl a allai fel arfer fod yn fwy mewnblyg, encilgar neu'n llai tebygol o ryngweithio.  O fewn y prosiect hwn, mae Chris a Graham wedi bod yn defnyddio gwahanol fathau o gelfyddyd i helpu cleifion ward a staff i weithio gyda'i gilydd i gyfathrebu'n fwy rhydd â'i gilydd; rhannu profiadau a straeon a thrwy hynny wella eu hiechyd meddwl a'u lles.

“Mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn bobl yn bennaf oll, ond weithiau gallan nhw golli golwg ar eu gallu i gyflawni a gwneud pethau normal - mae'r prosiect hwn wedi herio hynny'n wirioneddol ac wedi helpu ein cleifion a'r rhai o'u cwmpas i fanteisio ar eu creadigrwydd cynhenid ​​​​ac ysbrydoli gilydd i ffynnu a thyfu.

“Ar gyfer cam nesaf ein gwaith rydym yn awyddus iawn i ddod o hyd i ffyrdd o wneud mwy i gynnwys teuluoedd cleifion.  Drwy barhau i 'godi pontydd' rhwng gwahanol grwpiau, rydym yn gobeithio gwella dealltwriaeth ac empathi o gyflyrau iechyd meddwl a helpu i adeiladu rhwydweithiau cymorth cryfach ar gyfer y rhai ag anawsterau iechyd meddwl a'r cymunedau y maen nhw’n rhan ohonyn nhw. Gobeithiwn y bydd ein harddangosfeydd sydd ar ddod yn helpu i feithrin cysylltiadau pellach ac yn ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan yn y prosiectau.”

Bydd y prosiect Codi Pontydd yn cynnal arddangosfa a sgwrs yn Llyfrgell Treorci ddydd Mawrth 25 Mehefin am 2yp i arddangos gwaith y cyfranogwyr.

Bydd gan Godi Pontydd stondin hefyd yng Ngŵyl Gelfyddydau Cwm Rhondda ar faes Ystrad fechan yn Nhreorci ddydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024. Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael y cyfle i siarad ag aelodau'r tîm a chael gwybod mwy am y prosiect.

24/06/2024