Oherwydd heriau sylweddol a pharhaus o ran staffio, rydym wedi gwneud y penderfyniad i atal genedigaethau dan arweiniad bydwragedd yn Ganolfan Geni Tirion dros dro, gan ddechrau am 9am ddydd Gwener 13 Tachwedd 2026.
Bydd menywod sy'n dymuno rhoi genedigaeth mewn canolfan geni dan arweiniad bydwragedd yn dal i allu cael gofal o'r fath yng Nhanolfan Geni Tair Afon, yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Bydd gwasanaethau cyn-enedigol ac ôl-enedigol, gan gynnwys cymorth gyda bwydo ar y fron, yn parhau i weithredu fel arfer yng Nhanolfan Geni Tirion yn ystod y dydd.
Disgwylir i atal geni yn Tirion gael effaith gyfyngedig.
Mae ein bydwragedd cymunedol ar gael i gefnogi teuluoedd wrth iddynt drafod eu hopsiynau ar genedigaeth. Ymddiheurwn am unrhyw bryder y gallai'r ataliad dros dro hwn ei achosi, a diolchwn i'n menywod a'u teuluoedd am eu dealltwriaeth.
Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon.
Dywedodd Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae'n ddrwg gennym fod yn rhaid i ni atal gwasanaethau geni yng Nhanolfan Geni Tirion. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth bob amser yw darparu gofal mamolaeth diogel o ansawdd uchel, tra'n cefnogi menywod i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch eu profiad geni.
“Mae'r mesur dros dro hwn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd pwysau sylweddol o ran staffio. Er y bydd genedigaethau yng Nhanolfan Geni Tirion yn cael eu hatal, bydd menywod yn dal i allu cael mynediad at ofal mewn canolfan geni dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru.
“Byddwn yn cysylltu â theuluoedd a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn i drafod cynlluniau geni unigol, ateb cwestiynau a darparu cymorth.”
Cliciwch yma am ein cwestiynau cyffredin diweddaraf