Neidio i'r prif gynnwy

Arddangosfa Gelf yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Gyda'r gwaith sy’n mynd yn ei flaen yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, rydyn ni’n awyddus i wella'r amgylchedd ar gyfer cleifion ac ymwelwyr lle y gallwn. O ganlyniad, rydyn ni’n bwriadu arddangos gwaith celf lle y bo’n bosibl. Rydyn ni wedi dechrau gyda'r coridor wrth y fynedfa i adran famolaeth yr ysbyty. 

Mae’r arddangosfa gyntaf gan Julia Hannon, sy’n aelod o staff. Mae cyflwyniad i Julia ochr yn ochr â'i ffotograffau. 

Mae’r ail arddangosfa gyffrous yn cynnwys gwaith aelodau o Glwb Camera Merthyr. Cymerwch olwg y tro nesaf y byddwch chi’n pasio a mwynhewch y ffotograffiaeth.

Byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o waith celf gan ein cymuned leol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn arddangos eich gwaith, cysylltwch â'n Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd, Esyllt George yn Esyllt.George@wales.nhs.uk.

22/02/2023