Mae cleifion allanol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gofal a chymorth iechyd meddwl yn gyflymach, gyda rhestrau aros ac amseroedd yn lleihau. Daw hyn yn dilyn adolygiad cynhwysfawr gan glinigwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r dull newydd wedi arwain at welliannau, gan gynnwys gostyngiad yn amseroedd aros cyfartalog cleifion am apwyntiadau cleifion allanol dilynol, a hynny o 20 mis a mwy i saith mis*.
Pan wnaeth y cyfnod clo gyfyngu ar ein gwasanaethau i achosion brys yn unig y llynedd, ystyriodd Tîm Iechyd Meddwl Ardal Pen-y-bont ar Ogwr sut gallen nhw wneud pethau'n wahanol er mwyn trin pobl yn fwy effeithiol pan fyddai gwasanaethau’n ailddechrau.
Dechreuon nhw drwy ystyried canlyniadau ac, er bod y rhan fwyaf o gleifion allanol yn cael apwyntiad dilynol yn awtomatig, canfu’r tîm nad oedd angen hwn mwyach ar lawer o gleifion pan ddaeth yr adeg. Yn ogystal â hynny, roedd y rheiny roedd angen apwyntiad dilynol arnynt yn aros yn hirach o lawer na'r disgwyl.
Dyma Charlotte Higgins, Dirprwy Reolwr y Grŵp Gwasanaethau Clinigol, yn egluro bod yr adolygiad yn ymdrech tîm wirioneddol rhwng y clinigwyr a'r tîm gweinyddol.
“Yn gyntaf oll, datblygodd ein clinigwyr ganllawiau newydd sy’n sicrhau bod cleifion yn cael y canlyniad sy’n briodol i’w hanghenion clinigol, er enghraifft apwyntiad dilynol, adolygiad blynyddol neu’n cael eu rhyddhau,” meddai hi.
“Yna, dilysodd ein seiciatryddion ymgynghorol i oedolion eu rhestr aros yn glinigol gan ddefnyddio’r meini prawf newydd ar gyfer canlyniadau, gyda’r mwyafrif yn parhau i fod ar y rhestr aros.”
Yna aeth y tîm gweinyddol ati i gysylltu â gweddill y cleifion gyda llythyr yn gofyn iddynt roi gwybod i’r adran o fewn tri mis os oedd angen apwyntiad arnynt o hyd. Os na fyddai’r claf yn cysylltu o fewn tri mis, byddai llythyr arall yn cael ei anfon ato yn dweud y byddai’n cael ei ryddhau ond, yn bwysig, byddai’r llythyr yn rhoi'r holl fanylion cyswllt iddo pe bai angen rhagor o gymorth arno.
“Mae’n golygu bod modd i ni flaenoriaethu’r rheiny mae angen y cymorth arnynt fwyaf yn effeithiol, ond hefyd roedd rhaid i ni wneud yn siŵr fod neb yn cael ei adael ar ei ôl,” meddai Charlotte.
“Hefyd, cafodd cleifion eu hatgoffa am ein gwasanaethau argyfwng a gwybod fod modd atgyfeirio eu hunain yn ôl i’r gwasanaeth unrhyw bryd drwy ein gwasanaeth pwynt cyswllt cyntaf, ac y byddwn ni’n rhoi gwybod i'w meddyg teulu eu bod wedi cael eu rhyddhau.
“Mae ein swyddog gwella cleifion allanol yn monitro’r rhestr aros yn rheolaidd, yn nodi’r rheiny sy’n aros hiraf ac yn helpu i lenwi pob slot cymaint ag sy’n bosib.
“Mae'r agwedd ddigidol wedi helpu hefyd, gan fod pobl yn llawer mwy cyfarwydd ag apwyntiadau ar-lein. Erbyn hyn, rydyn ni’n gofyn beth sy’n well gyda nhw ac, mewn gwirionedd, mae'n well gyda llawer o gleifion alwad fideo neu alwad ffôn yn hytrach nag apwyntiad wyneb yn wyneb, gan fod y dulliau hyn yn lleihau eu pryder."
Dywedodd Charlotte mai'r nod oedd sicrhau bod y dull newydd yn cael gwared ar yr ôl-groniad ac yn caniatáu i'r tîm weld mwyafrif y cleifion o fewn eu dyddiad targed.
“Mae oedi o ran apwyntiadau dilynol yn effeithio’n negyddol ar ddiogelwch a phrofiad rhai cleifion, ac i bobl eraill, does dim eisiau’r apwyntiadau hyn mwyach,” meddai.
“Gall arosiadau hir arwain at iechyd meddwl gwaeth oherwydd gorbryder, a gallai hyn arwain at risg uwch o niwed a chanlyniadau gwaeth. Gobeithio y bydd y gwelliannau rydyn ni wedi eu gwneud, ac yn parhau i'w gwneud, yn helpu’r rheiny mewn angen i gael apwyntiad i gleifion allanol pan fydd ei angen."
*Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021