Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn cyfleu'r dysgu a'r arferion arloesol sydd yn dod i'r amlwg ar draws GIG Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19

Mae adroddiad newydd yn archwilio’r dysgu a’r arferion arloesol sydd wedi dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru mewn ymateb i COVID-19 wedi cael ei ryddhau heddiw gan Brifysgol Abertawe, ar ran sefydliadau a phartneriaid GIG Cymru. 

Mae Adroddiad Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru* yn amlygu canfyddiadau a’r hyn a ddysgwyd ynghylch pam y gallai ac y gwnaeth sefydliadau a staff y GIG arloesi wrth wynebu’r pandemig, ac mae’n amlinellu rhai o’r camau nesaf. 

Cafwyd dros 1,000 o ymatebion i bum astudiaeth ac arolwg gan drawstoriad eang o staff, yn ogystal â phum adroddiad pellach a gyhoeddwyd ar draws y sector iechyd a gofal yng Nghymru.  Mae’r ymatebion a’r dadansoddiadau wedi ffurfio sail dystiolaeth eang ar gyfer ymarfer newydd ac arloesol sydd wedi dod i’r amlwg. 

Mae’r themâu a’r hyn a ddysgwyd sydd yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad yn cynnwys mynediad digidol gwell, gwneud penderfyniadau yn gyflymach, cynnal cyflymder arloesi a newid, a llesiant staff. 

Oherwydd y ffocws o’r newydd ar adferiad y GIG, bydd yr adroddiad yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer newid wrth gyflwyno gwasanaethau mewn byd ar ôl Covid. 

Mae set o astudiaethau achos ategol** wedi cael eu cyhoeddi ynghyd â’r adroddiad. 

Dywedodd Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Mae ein hymateb i Covid-19 wedi cyflymu’r gwaith o weithredu sawl maes o Gymru Iachach – ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal.  Wrth i ni barhau i’r cyfnod heriol sydd o’n blaenau a bwrw ymlaen gyda’r gwaith o sefydlogi ac ailadeiladu ein gwasanaethau, mae gennym gyfle i ddatblygu’r enghreifftiau arloesol yn yr adroddiad hwn a sicrhau bod ein ffyrdd newydd o weithio yn cael eu sefydlu’n gadarn yn ein system gofal iechyd.” 

Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: “Bydd yr adroddiad hwn yn galluogi arweinwyr y GIG i adlewyrchu ar ddysgu ac arloesi ar draws y gwasanaeth, a’u sefydlu, gan gyflymu newid i wella’r ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru’n cael eu cyflwyno.  Mae’r ymateb i bandemig COVID-19 wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio ar draws sectorau, gyda pholisïau integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.  Wrth i ni ddechrau ar daith tuag at adferiad, ein gobaith yw y bydd yr adroddiad yn sbardun ar gyfer gweithredu a gwella gwasanaethau ar draws iechyd a gofal yng Nghymru.” 

Dywedodd Tom James, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “O ddechrau pandemig COVID-19, rydym wedi gweld gymaint o staff iechyd a gofal yn gweithredu’n reddfol i ymateb yn gyflym ac yn arloesol i amgylchiadau newydd, gan ychwanegu gwerth newydd sylweddol.  Mae ein tîm prosiect wedi cipio ystod enfawr o’r hyn a ddysgwyd ac arferion newydd trwy Astudiaeth Arloesi COVID-19, i ddarparu mynediad agored at y wybodaeth hon a’i galluogi i gael ei mabwysiadu ar hyd a lled Cymru.” 

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe yn parhau gyda’i chenhadaeth o gynorthwyo Cymru i helpu i greu dyfodol gwell ac iachach ar gyfer ei phobl trwy ein hymdrechnion ymchwil ac arloesi.  Mae’r adroddiad ymchwil hynod gydweithredol, a baratowyd gan bartneriaeth amlddisgyblaethol o dan arweiniad ein Hysgol Reoli – gyda phartneriaeth ar draws colegau a phartneriaeth ehangach yr Ysgol Feddygol, rhaglen Accelerate HTC, yn ogystal ag ARCH a Chomisiwn Bevan – yn amlygu cyfle ar gyfer arloesi i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn cynorthwyo agendâu iechyd a llesiant GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.” 

 

Cyswllt 

Liv Baker 

Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu, Conffederasiwn GIG Cymru 

Olivia.baker@welshconfed.org 

Symudol: 07483 091 525 

 

Cyfeiriadau 

*Adroddiad Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru: www.nhsconfed.org/GIGCymruCOVID19Arloesi 

**Atodiad - astudiaethau achos