Neidio i'r prif gynnwy

Adleoli'r Adran Awdioleg

Yn sgil anghenion y gwasanaeth, mae'r Adran Awdioleg, oedd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gynt, wedi symud yn barhaol i Barc Iechyd Prifysgol Keir Hardie.

Dylai cleifion gydag apwyntiad yn yr Adran Awdioleg fod wedi cael gwybod erbyn hyn am y newid hwn drwy lythyr neu dros y ffôn. Mae hysbysiadau wedi eu gosod hefyd ar hen safle'r adran yn rhoi gwybod i bobl am yr adleoli.

Dydyn ni ddim yn disgwyl i hyn effeithio ar unrhyw agwedd ar y gwasanaeth, ond ymddiheurwn ymlaen llaw os ydy'r adleoli hwn yn achosi unrhyw anghyfleustra dros dro i unrhyw un sy’n defnyddio'r gwasanaeth.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r adleoli hwn, ffoniwch 01685 728130.