Neidio i'r prif gynnwy

Academi Prentisiaethau BIP CTM yn Cynnal Seremonïau Graddio Terfynol ar gyfer Interniaid Prosiect SEARCH 2023

Yr wythnos hon, mewn cydweithrediad â phartneriaid Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Merthyr, a Chyflogaeth â Chymorth ELITE, cynhaliodd Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg seremonïau graddio ar gyfer ein Interniaid a Gefnogir Prosiect SEARCH yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Mae’r rhaglen wedi bod yn rhedeg yn BIP CTM ers pedair blynedd, ac mae’n darparu lleoliadau gwaith i bobl ifanc (yr intern a gefnogir) ag anhawster dysgu a/neu Awtistiaeth, i gael profiad gwaith o fewn gwahanol adrannau. Dros gyfnod o flwyddyn a gyda chefnogaeth Tiwtor o'r coleg a Hyfforddwr Gwaith o Elite, mae'r intern a gefnogir yn cael profiadau ymarferol o fyd gwaith, gan fagu hyder i weithio'n annibynnol.

Dywedodd Rhian Lewis, Partner Busnes Dysgu a Datblygu sy’n goruchwylio’r rhaglen: “Mae wedi bod yn wych gallu dathlu gyda’n partneriaid, interniaid a gefnogir, rhieni, gwarcheidwaid, rheolwyr a mentoriaid BIP CTM. Dros gyfnod o flwyddyn, mae’r interniaid a gefnogir wedi cael dylanwad enfawr o fewn ein gwasanaethau, a heddiw roeddem ni am ddathlu eu llwyddiannau.”

Yn ystod y dathliad, cyflwynodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol Cyflogaeth â Chymorth Elite, Wobr Cyflogwr Engage to Change i Gwm Taf Morgannwg, gan gydnabod tîm BIP CTM am eu hymroddiad a’u hangerdd am interniaethau a gefnogir.

Effaith Prosiect SEARCH

Mae llawer o interniaid a gefnogir wedi elwa o’r rhaglen yn BIP CTM, gyda 22% ohonyn nhw yn cael gwaith yn y Bwrdd Iechyd yn dilyn eu hinterniaeth. Mae eraill wedi mynd ymlaen i gael gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn ein cymunedau.

Roedd Krystal yn raddedig Prosiect SEARCH yn 2022 ac mae'n cael ei chyflogi ym maes Cadw Tŷ yn BIP CTM.  Meddai Krystal: “Rwy'n mwynhau fy swydd yn fawr ac mae'n deimlad da ennill fy arian fy hun.  Rwy’n mwynhau bod yn rhan o'r Tîm Cadw Tŷ yn fawr.  Rwy'n ddiolchgar iawn am y prosiect ac i bawb yng Nghwm Taf Morgannwg am gynnig y cyfle i mi.”

Roedd Aaron yn raddedig Prosiect SEARCH yn 2022 ac mae’n cael ei gyflogi yn BIP CTM fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Meddai Aaron: “Mae bod yn intern wedi newid fy mywyd llawer. Fyddwn i ddim wedi cael y swydd hon heb y gefnogaeth a gefais.  Rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ac mae fy hyder wedi cynyddu cymaint.  Hoffwn ddymuno pob lwc i ddosbarth 2023”.

Ychwanegodd Ellie Elias, intern ar y rhaglen 22/23, “Mae’r interniaeth hon wedi bod yn brofiad dysgu gwych oherwydd rydw i wedi gallu rhoi cynnig ar lawer o wahanol bethau, gan ddysgu sgiliau newydd a gwella sgiliau presennol.  Mae wedi bod yn her, ond os nad yw rhywbeth yn eich herio, ni fydd yn eich newid ac mae hynny'n dechrau gyda chi'n cael eich rhoi y tu allan o'ch man cyffyrddus”.

Y Camau Nesaf ar gyfer Interniaethau a Gefnogir

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein Interniaid a Gefnogir newydd ym mis Medi, lle bydd y prosiect yn ehangu i’n safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 

Rydyn ni’n annog rheolwyr i ddod ymlaen i gynnig eu cefnogaeth trwy leoliad gwaith. Ychwanega Rhian Lewis: “Heb y cymorth caredig a’r ymroddiad gan ein rheolwyr a’n mentoriaid yn BIP CTM, ni fyddai’r prosiect hwn yn llwyddiant. Mae ein interniaid presennol wedi ennill sgiliau anhygoel i’w galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth, gwirfoddoli a phrentisiaethau. Dymunwn y gorau iddyn nhw i gyd wrth iddyn nhw gychwyn ar y cam nesaf yn eu taith.”

 

04/07/2023