Fel y prif gontractwr ar y gwaith adnewyddu gwerth £130 miliwn yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, mae Tilbury Douglas, sy’n gwmni adeiladu, seilwaith, peirianneg a gosod ffitiadau blaenllaw yn y DU, wedi partneru â CRADLE i lansio gwasanaeth colli babi yn ystod beichiogrwydd cyntaf CRADLE yng Nghymru yn Ysbyty Tywysog Siarl.Fel y prif gontractwr ar y gwaith adnewyddu gwerth £130 miliwn yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, mae Tilbury Douglas, sy’n gwmni adeiladu, seilwaith, peirianneg a gosod ffitiadau blaenllaw yn y DU, wedi partneru â CRADLE i lansio gwasanaeth colli babi yn ystod beichiogrwydd cyntaf CRADLE yng Nghymru yn Ysbyty Tywysog Siarl.
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg – Arolwg o iechyd meddwl oedolion wedi ei lansio ar 16.03.22
Eleni ar Ddiwrnod Ailgylchu’r Byd, rydyn ni am dynnu sylw at y ffyrdd y gallwn ni i gyd fod yn #ArwyrAilgylchu bob dydd.
Dysgwch fwy am y sganiwr MRI newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Erbyn hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau cam newydd o'i raglen frechu rhag COVID-19, ac yn cynllunio sut a ble y bydd brechlynnau'n cael eu cynnig i'w gymunedau yn y dyfodol.
Bydd cerflun Elaine Morgan, sy'n gofeb barhaol efydd o'r ferch enwog o Gymoedd y De, yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig ar ddydd Gwener 18 Mawrth 2022, yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.
Bydd Meddygfa Stryd Dewi Sant yn Nhon Pentre a Meddygfa Llwynypia yn Llwynypia yn uno i greu un practis ar 1 Ebrill 2022.
Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 31 Mawrth 2022 am 10:00 am.
Mae cyfres newydd o ffilmiau am fywydau a heriau beunyddiol pobl sy'n byw gyda Dementia wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg olrhain y llygaid ac adnabod mynegiant yr wyneb.
Dyfarnwyd MBE yn swyddogol i Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yng Nghastell Windsor ar 9 Chwefror 2022 gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.
Yr wythnos hon, mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol. Rydyn ni wedi rhoi miliwn o frechlynnau rhag COVID-19 i drigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae amser ymchwil gwarchodedig wedi’i ddyfarnu i bedwar darpar arweinydd ymchwil yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae’r cyllid yn dod o gylch 2021 Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG sydd â chyfanswm gwerth oes o £356,789.
Diolch i ymdrechion pawb yn ein hardaloedd, mae cyfraddau COVID-19 wedi lleihau yn ein cymunedau a’n hysbytai ledled CTM.
O ganlyniad, mae’n braf gennym ni lacio’r cyfyngiadau ymweld ar draws ein gwasanaethau mamolaeth.
Mae’r Cerddwyr (neu Ramblers Cymru) yn annog pobl i wisgo eu hesgidiau cerdded a mynd allan i'r awyr agored er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a'u lles.
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ddyddiad arwyddocaol yn y calendr iechyd meddwl. Mae dydd Iau 3 Chwefror 2022 yn ddiwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol, lle bydd ffrindiau, teuluoedd, cymunedau a gweithleoedd yn cael eu hannog i ddod ynghyd i siarad am iechyd meddwl a sut mae’n effeithio ar eu lles personol.
Mae Tîm Ystadau Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn gweithio’n galed i adfywio’r eglwys hanesyddol ar safle Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob cwr o’r byd ac wedi creu heriau newydd i’r rhan fwyaf o bobl. Yr un oedd y sefyllfa i staff a chleifion Tŷ Pinewood yn Nhreorci, sef gwasanaeth adsefydlu iechyd meddwl yn y gymuned. Wrth i’r byd wynebu cyfnod clo, doedd dim modd parhau â’r gwasanaethau yn yr awyr agored i’r cleifion.
Rydyn ni’n trawsnewid ein Gwasanaethau i Gleifion Allanol i’w gwneud yn haws eu defnyddio ac i wella iechyd cymunedau CTM.