Rydym yn cydnabod bod y newidiadau arfaethedig i batrymau sifftiau yn parhau i achosi cwestiynau a thrafodaeth ymhlith cydweithwyr ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth a gwaith cymorth gofal iechyd.
Mae llawer o aelodau o'r staff wedi dweud wrthym eu bod yn pryderu am yr effaith bosibl ar y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, cyfrifoldebau gofalu, blinder, lles a realiti ymarferol cymryd egwylion yn ystod sifftiau prysur. Rydym am roi sicrwydd i gydweithwyr bod y pryderon hyn yn cael eu hystyried yn weithredol fel rhan o'r broses ymgynghori, a'u bod yn parhau i lywio'r gwaith sydd ar y gweill.
Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ynghylch gweithredu unrhyw newidiadau.
Beth rydym wedi’i glywed hyd yn hyn
Tynnodd yr adborth o'r ymgynghoriad cychwynnol sylw at nifer o themâu sy'n codi dro ar ôl tro, ac mae eisoes wedi dylanwadu ar y broses ymgynghori. Llywiodd hyn ddatblygiad Opsiwn 8 ac arweiniodd at sefydlu ffrydiau gwaith pwrpasol yn ystyried:
Dyrannu a chofnodi DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus). O dan Opsiwn 8, byddai 42 o'ch oriau cytundebol yn cael eu neilltuo'n flynyddol, yn benodol ar gyfer DPP. Byddai hyn yn cael ei gyfrifo yn gymesur ar gyfer staff rhan-amser. Mae'r amser DPP hwn ar wahân i'r patrymau sifftiau clinigol arfaethedig o dair sifft 12.5 awr yr wythnos a'r sifftiau gwneud i fyny yn wythnosau 4 ac 8.
Trefniadau ar gyfer egwylion gorffwys, cyfleusterau a phrosesau monitro. Dywedodd llawer o gydweithwyr wrthym y gall sgyrsiau am les deimlo'n ddatgysylltiedig oddi wrth realiti amgylcheddau clinigol prysur, lle nad yw hi bob amser yn bosibl cael egwylion, neu lle mae staff yn teimlo na allant adael y ward oherwydd pwysau ar y gwasanaeth. Rydyn ni'n cydnabod y pryder hwn. Nid yw gwella lles yn ymwneud yn unig â newid rota neu gynyddu'r hawl i egwylion. Mae hefyd yn ymwneud â chreu'r amodau sy'n gwneud egwylion yn bosibl, cefnogi lles staff yn ymarferol a sicrhau diogelwch cleifion. O dan y cynigion diwygiedig, bydd egwylion gorffwys yn cael eu gwarantu. Mewn amgylchiadau eithriadol lle na chymerir egwyl, caiff hyn ei gofnodi a'i fonitro, gyda'r amser yn ddyledus.
Beth glywsom yn ystod ymweliadau diweddar â wardiau a safleoedd
Dros yr wythnosau diwethaf, ymwelodd cydweithwyr o'r Gyfarwyddiaeth Pobl â wardiau ac adrannau ar draws ein safleoedd i wrando ar brofiadau staff, ateb cwestiynau a deall pryderon yn uniongyrchol. Mae hyn yn ychwanegol at y sesiynau briffio sydd wedi'u cynnal ar gyfer yr holl staff yr effeithir arnynt.
Daeth sawl thema i'r amlwg:
Ymddiriedaeth a hyder
Dywedodd rhai cydweithwyr wrthym eu bod yn teimlo bod y canlyniad efallai eisoes wedi'i benderfynu, tra bod eraill yn cwestiynu a fyddai eu hadborth yn dylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol. Clywsom hefyd gan staff a oedd yn teimlo eu bod eisoes wedi rhannu eu barn drwy arolygon blaenorol neu drwy ymgysylltu ag undebau llafur.
Rydym am dawelu meddwl cydweithwyr bod hon yn parhau i fod yn ymgynghoriad dilys. Arweiniodd yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol yn uniongyrchol at newidiadau i'r opsiynau oedd yn cael eu hystyried, ac mae'n parhau i lunio'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Sifftiau gwneud iawn
Mynegodd llawer o gydweithwyr eu bod yn deall yr angen am safonoli ar draws ein safleoedd. Fodd bynnag, dywedodd rhai cydweithwyr wrthym eu bod yn parhau i fod yn bryderus ynghylch yr effaith y gallai sifftiau i wneud iawn am amser a gollwyd ei chael ar fywyd teuluol, cyfrifoldebau gofalu a blinder. O ran staff eraill, cydnabuwyd y byddai Opsiwn 8 yn golygu llai o sifftiau gwneud iawn. Cydnabyddir y bydd y cynigion hyn yn effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol, a dyna pam mae'r cyfnod ymgynghori unigol mor bwysig.
Ceisiadau am wybodaeth gliriach
Gofynnodd y staff am eglurhad cliriach ynghylch:
Mewn ymateb i'r themâu hyn, rydym wedi diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin, wedi sicrhau bod recordiad briffio ar gael, ac yn parhau i gynnig cyfleoedd trafod un-i-un yn ogystal â rhai grŵp, sydd bellach ar gael.
Mae hyn yn ychwanegol at y wybodaeth sydd eisoes ar gael ar y Ganolfan Ymgynghori, sy'n cynnwys cyfres o ‘Senarios Effaith Costau’ i ymdrin ag oriau gwaith rhan-amser mewn perthynas â'r cynigion.
Cwestiynau Cyffredin wedi'u diweddaru ar gael nawr
Rydym wedi cyhoeddi set ddiweddaredig o gwestiynau cyffredin sy'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am:
Cymerwch ychydig funudau i adolygu'r Cwestiynau Cyffredin diweddaraf, yn enwedig y rhannau sydd wedi'u diwygio ers y cyhoeddiad gwreiddiol.
Gwylio'r recordiad o'r sesiwn briffio
Os nad oeddech chi’n allu mynychu un o'r sesiynau briffio diweddar, mae recordiad ar gael nawr. Gwyliwch y recordiad yma.
Cafodd y sesiwn hon ei chynnal gan Jacky Francis, Cyfarwyddwr Nyrsio ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, ar 17 Awst, ac mae'n rhoi trosolwg o'r cynigion ymgynghori ac atebion i'r cwestiynau a godwyd gan gydweithwyr.
Mae eich adborth yn bwysig
Mae'r ymgynghoriad yn parhau ar agor tan 30 Medi 2026, ac rydym yn annog pob cydweithiwr sy'n dod o dan gwmpas yr ymgynghoriad i rannu eu barn.
Mae'r ffurflen adborth ymgynghori (y gallwch ei llenwi yma) yn rhoi cyfle i:
Bydd yr holl adborth a gyflwynir yn cael ei adolygu a'i ystyried fel rhan o'r broses ymgynghori. Caiff yr ymatebion eu dadansoddi yn ôl themâu, ac ni rennir unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn.
Angen sgwrs bellach?
Rydym yn cydnabod efallai y bydd rhai cydweithwyr yn dymuno trafod eu hamgylchiadau unigol yn fanylach.
Os ydych eisoes wedi cael trafodaeth un-i-un gyda rheolwr eich ward ac yn teimlo bod eich pryderon yn parhau i fod heb eu datrys, gallwch nawr ofyn am sgwrs grŵp ddilynol sy'n cynnwys aelod o'r Gyfarwyddiaeth Pobl.
Mae'r trafodaethau hyn yn rhoi cyfle i:
Gall cydweithwyr hefyd ddewis cael eu cefnogi gan gynrychiolydd undeb llafur yn ystod y trafodaethau hyn.
Siaradwch â rheolwr eich ward yn y lle cyntaf os hoffech drefnu sgwrs ddilynol. Mae slotiau 20 munud ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener; gall rheolwyr wneud cais amdanynt drwy CTM.ShiftConsult25@wales.nhs.uk cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 30 Medi.
Diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hyd yn hyn.
Mae eich adborth yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddeall effaith bosibl y cynigion hyn ac wrth lywio argymhellion yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon nad ydynt wedi cael sylw yn y wybodaeth a ddarparwyd hyd yma, anfonwch e-bost at CTM.ShiftConsult25@wales.nhs.uk.