Heddiw (30 Gorffennaf 2026), ystyriodd y Bwrdd Iechyd ddiweddariad ar y cynnig i alinio patrymau sifftiau ar gyfer gweithwyr nyrsio, bydwreigiaeth a chymorth gofal iechyd.
Yn dilyn trafodaeth, mae'r Bwrdd wedi cymeradwyo'r argymhelliad i symud ymlaen i'r cam nesaf o ymgynghori, a fydd yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â staff sy’n cael ei effeithio gan yr argymhelliad ynghylch yr opsiynau patrymau sifftiau arfaethedig. Mae'r Bwrdd wedi cytuno y dylai'r ymgynghoriad barhau ar Opsiwn 2 ac Opsiwn 8, gan nodi mai Opsiwn 8 yw'r opsiwn a ffefrir gan y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd.
Cydnabu’r Bwrdd yr adborth a dderbyniwyd drwy’r broses ymgynghori ar y cyd â’r Undebau Llafur, a ddaeth i ben yn gynharach eleni, a chydnabu bwysigrwydd sicrhau bod gan staff y cyfle i drafod a deall effaith unigol y cynigion cyn ystyried unrhyw benderfyniadau terfynol.
Nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud ynghylch gweithredu unrhyw newidiadau i batrymau sifftiau. Byddai angen penderfyniad pellach gan y Bwrdd ar ôl cwblhau'r cyfnod ymgynghori unigol ac ystyried yr adborth a dderbyniwyd.
Dros y dyddiau nesaf, bydd staff sy’n cael ei effeithio yn derbyn gwybodaeth fanwl am gam nesaf yr ymgynghoriad, gan gynnwys sesiynau briffio, gwybodaeth ategol, cwestiynau cyffredin, a chyfleoedd i drafod y cynigion ac unrhyw amgylchiadau unigol.
Bydd yr wybodaeth hon ar gael drwy’r 'Ganolfan Ymgynghori Patrymau Sifftiau' newydd.
Diolch i bawb sydd wedi ymwneud â'r broses hyd yn hyn. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod ymgynghori yn ystyrlon, yn dryloyw ac yn hygyrch, ac rydym yn annog yr holl staff sy’n cael ei effeithio i gymryd rhan yng ngham nesaf yr ymgysylltu.
Pwysig: Ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gweithredu o ganlyniad i drafodaeth y Bwrdd heddiw. Bydd ymgynghoriad unigol yn cael ei gynnal cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.
Cynigion patrwm shifft ar un olwg.
Argraffwch ac arddangoswch y poster hwn er sylw'r cydweithwyr perthnasol.