Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer blwyddyn adrodd 2021/2022. Mae’r adroddiad yn taflu goleuni ar sut rydym wedi gweithio i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg dros y cyfnod adrodd ac ar beth rydym ni’n bwriadu ei wneud dros y 12 mis nesaf i wella’n darpariaeth Gymraeg ni. Mae wedi ei gyhoeddi i gydymffurfio â Safon 120 o dan Safonau’r Gymraeg. 

Yn ei ragair i’r adroddiad, fe ddywedodd Paul Mears ein Prif Weithredwr: 

“Unwaith eto eleni, mae ymrwymiad ein staff i ddarparu gofal o safon i'n defnyddwyr gwasanaeth Cymraeg eu hiaith yn amlwg, a gofal o safon i siaradwyr Cymraeg wrth gwrs yw gofal yn y Gymraeg wrth i ni ganolbwyntio gyda’n gilydd ar adeiladu cymunedau iach gyda’n gilydd..  

Mae'r sylwadau isod gan glinigwyr ar effaith gwasanaethau Cymraeg ar foddhad cleifion a chanlyniadau eu gofal, a sylwadau gan 4 o’n 55 o aelodau o staff sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg eleni, yn dystiolaeth glir o sut mae’r safonau o ran cyfathrebu â chleifion a phwysigrwydd gofal yn Gymraeg wedi bwrw gwreiddiau yn ein Bwrdd Iechyd.” 

Ychwanegodd Paul:  

“Edrychaf ymlaen dros y flwyddyn nesaf at gefnogi'r sefydliad er mwyn sicrhau gwella parhaus yn ein gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf, sef wrth gwrs gwasanaethau Cymraeg i gleifion Cymraeg eu hiaith.” 

Gellir dod o hyd i’r adroddiad yma. 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am yr adroddiad neu am ein darpariaeth ddwyieithog, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy anfon e-bost at CTT_WelshLanguage@wales.nhs.uk yn y Gymraeg neu yn y Saesneg. 

 

Dilynwch ni: