Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu ac arweinyddiaeth

  • Sefydlu rhwydwaith teithio iach Sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr teithio iach ar draws ein sefydliadau sy’n hyrwyddo ac yn modelu ymddygiad teithio llesol a chynaliadwy fel mater o drefn
  • Defnyddio negeseuon cyfathrebu cyson Cytuno ar, a defnyddio negeseuon cyfathrebu cyson gyda'r cyhoedd, ymwelwyr a staff ar deithio iach a lleihau teithio diangen
  • Ystyried teithio iach ar draws ein swyddogaethau ehangach Hyrwyddo ac ystyried opsiynau a buddion teithio iach ar draws swyddogaethau ehangach fel caffael, cynadleddau, cynllunio gweithleoedd a swyddfeydd, ac wrth hysbysebu rolau yn ein sefydliadau
  • Darparu arweiniad strategol ar deithio iach Cydweithio â phartneriaid a darparu arweinyddiaeth strategol a chynllunio ar deithio iach a chynaliadwy, er enghraifft cwmpasu dichonoldeb gwasanaethau Parcio a Theithio partneriaeth
  • Cynnwys ein staff Cynnwys staff yn rheolaidd wrth drafod pa fesurau fyddai’n eu helpu i symud i ddulliau teithio cynaliadwy, trwy arolygon teithio (arolwg gwaelodlin cychwynnol ac arolwg blynyddol o leiaf) a mentrau eraill, e.e. cystadlaethau a gwobrau staff i annog teithio iach
  • Cefnogi staff sy'n gyrru cerbydau fflyd i fod yn ddefnyddwyr ffyrdd cyfrifol Cefnogi staff sy'n gyrru cerbydau fflyd i fod yn ddefnyddwyr ffyrdd cyfrifol ac ystyriol (e.e. gyrru o fewn terfynau cyflymder a pheidio â pharcio ar lonydd beicio), i alluogi cerdded a beicio diogel
Dilynwch ni: