Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae Teithio Iach yn Bwysig?

Mae angen i ni newid sut rydym yn symud o gwmpas ar frys.  

Mae lefelau is o weithgarwch corfforol, lefelau cynyddol o ordewdra a diabetes, llygredd aer eang, arwahanu cymdeithasol, ac anghydraddoldebau iechyd i gyd yn broblemau difrifol o ran iechyd y cyhoedd. ​ ​Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad difrifol  sydd eisoes yn cael ei deimlo yn y DU ac ar draws y byd.  
Mae patrymau newidiol yn y ffordd rydym yn teithio a sut rydym yn dylunio ein hamgylcheddau ar gyfer teithio wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y broblemau hyn.  
Mae angen gweithredu’n feiddgar yng Nghymru os ydym am wrthdroi’r tueddiadau hyn mewn iechyd y boblogaeth a byd-eang a chreu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy i’n trigolion.   

 

Yr Effeithiau ar Iechyd a Lles  

Mae'r newid hwn mewn dull teithio wedi cyfrannu at ostyngiad mawr mewn gweithgarwch corfforol, sydd yn ei dro yn gysylltiedig â risg uwch o afiechyd, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlar, canser a diabetes.  Mae trafnidiaeth ffyrdd yn gyfrannwr mawr atlygredd aer niweidiol, ac mae'n gyfrifol amtua 1,000 o ddamweiniau sy'n achosi anaf difrifol neu farwolaeth bob blwyddynyng Nghymru.  
 
​Wrth i'n hamgylcheddau gael eu llunio o amgylch y car, mae rhyngweithiadau o fewn a rhwng cymunedau wedi lleihau. Mae llawer o effeithiau andwyol trafnidiaeth ffyrdd yn cael eu teimlo'n fwy mewn cymunedau mwy difreintiedig, gan gyfrannu at waethygu anghydraddoldebau iechyd. 
 
Mae newid hinsawdd yn cynyddu'r risg o ddigwyddiadau tywydd garw gan gynnwys llifogydd a fydd yn effeithio fwyfwy ar ein cymunedau a'n seilwaith.  Am fwy o fanylion a chyfeiriadau llawn ar gyfer y wybodaeth yma, gweler yradroddiad Symud Ymlaen

Dilynwch ni: