Ar lefel yr unigolyn, bydd cerdded a beicio mwy a lleihau eich defnydd o gar preifat (os oes gennych un) yn gwella eich lles corfforol a meddyliol, ac yn lleihau llygredd aer. Mae gadael y car gartref un diwrnod yr wythnos a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny yn fan cychwyn da arall.
Os ydych chi'n ystyried cael gwared ar eich car, meddyliwch yn gyntaf, oes ei angen arnoch chi (yn enwedig os ydych chi'n aelwyd gyda dau gar)? Os byddwch yn prynu car, allai eich car nesaf fod yn gar trydan?
Ni fydd unrhyw unigolyn yn datrys problemau llygredd aer, newid hinsawdd ac ymddygiad eisteddog ar ei ben ei hun, ond gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth - felly gweithredwch nawr.
Mae'r arolwg staff ar agor i gasglu eich barn a'ch mewnwelediadau ynghylch teithio llesol i'n safleoedd ysbytai ar draws CTM ac os oes gennych unrhyw syniadau arloesol, cyflwynwch nhw i'r platfform Simply Do: