Mae Teithio Iach Cymru wedi tyfu o waith a ddechreuodd yng Nghaerdydd, ac yn ddiweddarach ym Mro Morgannwg, i ddatblygu dull ar draws y sector cyhoeddus ar gyfer teithio iach a chynaliadwy.
Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Dr Tom Porter o dîm iechyd cyhoeddus lleol Caerdydd a'r Fro, gan weithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau), a sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector eraill. Dilynodd hyn adroddiadSymud Ymlaenyn 2017. Mae Siarteri Teithio Iach bellach yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gydag arweinwyr lleol ym mhob ardal yn gyfrifol am weithredu'r Siarter.
Health Travel Animation: