Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg Gyhyrysgerbydol

Yn aml, mae poen traed a migwrn yn achosi anghysur wrth wneud gweithgareddau dyddiol a gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod bywyd unigolyn. Ni yw'r arbenigwr mewn asesu’r problemau hyn, rhoi diagnosis ohonynt a delio â nhw.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar reoli cyflyrau sy'n effeithio ar y cyhyrau, y feinwe feddal a chymalau'r traed a’r coesau. Mae ein gwasanaeth cyhyrysgerbydol hefyd yn arbenigo mewn cyflyrau sy’n gyffredin ymysg plant a phobl ifanc.

Ein nod yw datrys neu leihau'r effaith drwy eich helpu i ddeall a thrin eich cyflwr ar y migwrn neu’r droed.

  • Lleihau poen
  • Gwella gallu’r coesau, y gallu i gerdded a’ch osgo.
  • Gwella eich perfformiad drwy wella cryfder a hyblygrwydd y cyhyrau
I bwy mae'r gwasanaeth?

Gall Podiatreg Gyhyrysgerbydol helpu gyda nifer o broblemau cyhyrol ac orthopedig. Ymhlith enghreifftiau o'r rhain mae:

  • Llid y Tendonau/Rhwygiad
  • Cyflyrau llidus
  • Ansefydlogrwydd y migwrn
  • Traed gwastad
  • Sblintiau yn rhan isaf y goes
  • Poen yn y cymalau (y glun, y pen-glin, rhan isaf y cefn)
  • Poen traed (y sawdl, rhan flaen y droed)
  • Cyflyrau tyfu
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?

Gall meddygon teulu neu unrhyw ddarparwr gofal iechyd cydnabyddedig arall eich cyfeirio at y gwasanaeth, neu fel arall gallwch chi hunangyfeirio.

Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am – 4.30pm

Beth i'w ddisgwyl

Yn ystod eich asesiad, bydd cyfres o brofion gan gynnwys profion eistedd i sefyll a phrofion cerdded. Byddwn ni’n edrych ar gryfder y cyhyrau a gallu’r cymalau i symud. Mae’n bosib y bydd angen sganiau uwchsain, pelydr-X neu MRI arnoch chi. Bydd y Podiatrydd yn trafod yr opsiynau o ran triniaeth a byddwch chi’n cytuno gyda'ch gilydd ar y cynllun triniaeth sydd fwyaf addas i chi. Gallai hwn gynnwys;-

  • Cyngor, addysg a chynllun ymarfer corff yn y cartref
  • Orthoses
  • Therapi chwistrellu
  • Ymarferion rhyddhau’r feinwe feddal
  • Aciwbigo
  • Cyfeiriad at wasanaethau eraill

Cysylltwch â ni
Ysbyty'r Bwthyn Pontypridd
Y Comin
Ffordd yr Ysbyty
Pontypridd
CF37 4AL

Dolenni Defnyddiol
Ffurflen hunangyfeirio ar gyfer Podiatreg Gyhyrysgerbydol
Dilynwch ni: