Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae gwasanaeth Diabetes yr ysbytai ar gael yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth.
Mae Diabetes yn gallu achosi problemau gyda'r traed gan fod glwcos yn gallu niweidio'r nerfau a'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi'r droed. Gall y newidiadau hyn fod yn raddol iawn, ac mae’n bosib na fyddwch chi’n sylwi arnyn nhw. Dyma pam mae eich traed yn cael eu sgrinio bob blwyddyn yn eich meddygfa. Byddwch chi’n cael dosbarthiad risg, sef lefel eich risg o ddatblygu problemau gyda’r traed. Os oes ydy eich dosbarthiad risg yn gymedrol neu’n uchel, byddwn ni’n eich cyfeirio at y Tîm Podiatreg am asesiad pellach.
Os oes wlser gyda chi ar eich traed, mae hyn yn golygu bod afiechyd actif ar y droed gyda chi a byddwn ni’n eich cyfeirio ar frys at yr Tîm Gofal Clwyfau Podiatreg Uwch. Dyma gyflyrau eraill sy'n cael eu hystyried yn afiechyd actif ar y droed:
I bwy mae’r gwasanaeth?
Mae'r gwasanaeth risg uchel ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd sy'n peryglu eu traed. Mae problemau iechyd fel Diabetes, cylchrediad gwael, niwropathi (colli synhwyrau), arthritis rhiwmatoid neu rai moddion a thriniaethau ar gyfer canser, yn gallu cynyddu'r risg o ddatblygu problemau gyda’r traed. Sylwch nad yw’r ffaith fod Diabetes gyda chi o’r rheidrwydd yn golygu bod eich risg yn uchel.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?
Mae angen i'ch meddyg teulu neu unrhyw ddarparwr gofal iechyd cydnabyddedig arall eich cyfeirio at y gwasanaeth.
Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm
Beth i'w ddisgwyl
Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, bydd y podiatrydd yn asesu iechyd eich traed ac yn asesu risg eich traed o ddatblygu wlser a haint neu o gael eu trychu (amputation). Os bydd risg eich traed yn uchel, bydd angen i chi gymryd gofal ychwanegol ac mae’n bosib y bydd angen triniaeth reolaidd arnoch gan bodiatrydd. Mae ein clinigau risg uchel yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau yn y gymuned.
Bydd ein tîm podiatreg uwch yn eich asesu ac yn datblygu cynllun triniaeth. Gallai hyn gynnwys trin wlserau, trin unrhyw haint, ac o bosib eich rhoi mewn cast i dynnu'r pwysau oddi ar eich traed.
Mae’n bosib y cewch eich cyfeirio am belydr-X neu at dîm arbenigol arall, i wneud yn siŵr eich bod yn cael triniaethau priodol pan fydd angen. Mae'r llwybr atgyfeirio hwn yn helpu i atal achosion o drychu a derbyn cleifion i'r ysbyty.
Cysylltwch â ni
Y Bwythyn
Y Comin
Ffordd yr Ysbyty
Pontypridd
CF37 4AL
Cysylltiadau defnyddiol